â'r sut i'w canu. Yn 1838 daeth "anadliad o Lanidloes" gyda Gramadeg Cerddorol John Mills. Dilynwyd hwn gan Arweinydd Cerddorol Richard Mills yn 1842-3, a Gramadeg Cerddoriaeth Alawydd yn 1848. Fel llyfrau ar gerddoriaeth y mae'r rhain bellach ar ôl yr oes, ond yr oeddynt yn dra phwysig pan gyhoeddwyd hwy, ac yn gryn gaffaeliad i Gymry uniaith. Ond tua chanol y ganrif bu gwelliant mawr, a hynny trwy lafur caled ychydig o ddynion. Gan mor ddwfn oedd eu dylanwad ar gerddoriaeth Gymreig, rhaid ymhelaethu arnynt. Rosser Beynon, Alawydd ac Ieuan Gwyllt oedd y rhain.
Ganed ROSSER BEYNON yng Nglyn Nedd yn 1811. Un o Sir Gaerfyrddin oedd ei dad. Symudodd i Ferthyr yn 1815, ac yno y treuliodd Rosser weddill ei oes. Ychydig a barodd ei ddyddiau ysgol. Dechreuodd weithio, yng Ngwaith Haearn Dowlais yn ôl pob tebyg, cyn iddo gyrraedd wyth oed. Fodd bynnag, yno y bu'n gweithio y chwe blynedd ar hugain diwethaf o'i oes. Fel llawer cerddor Cymreig y pryd hwnnw methodd gael hyd i athro cerdd, a bu'n rhaid iddo ei ddysgu ei hunan. Er hyn dysgodd yn gyflym, a chyn hir yr oedd yn trefnu dosbarthiadau cerddoriaeth nid yn unig ym Merthyr, ond yng Nghaerdydd a rhannau eraill o Ddeheudir Cymru.
Yn 1845 cyhoeddodd Telyn Seion, casgliad o donau, anthemau a chorawdau. Ymddangosodd ail ran yn 1848. Yr oedd Telyn Seion yn welliant mawr ar lyfrau o'r fath a gyhoeddwyd o'i flaen, ac i ryw raddau cyflawnodd yr angen a oedd yn bod ar y pryd, am gerddoriaeth i gorau a chynulleidfaoedd. Er bod ugain o donau o waith Beynon ei hun yn y casgliad hwn, anghofiwyd hwynt ers tro. Bu'n olygydd cerddorol Y Diwigiwr am rai blynyddoedd, a bu hefyd yn boblogaidd fel beirniad eisteddfodol. Yn Eisteddfod Wrecsam (1845) dyfarnodd y ddwy wobr gyntaf am yr anthemau gorau i John Ambrose Lloyd, gŵr na wyddai neb amdano y pryd hwnnw.
Haedda Rosser Beynon le anrhydeddus yn hanes cerddoriaeth ein gwlad, oherwydd ei waith gwych dros ganu corawl a chynulleidfaol yn Neheudir Cymru. Adnabuwyd ef yno fel "Apostol canu cynulleidfaol." Dywedir mai ef a Moses Davies (taid y Dr. Mary Davies) a oedd yn gyfrifol am newid o'r hen ddull i'r dull newydd o ganu emynau. Yn yr hen ddull y dynion a ganai'r alaw, a'r merched y rhan i'r tenor. Yn ogystal â bod yn arweinydd da, yr oedd Beynon hefyd yn athro ardderchog. Yr oedd rhai o arweinwyr gorau'r dydd,