Tudalen:Cerddoriaeth yng Nghymru (Cyfres Pobun).djvu/22

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

megis Abraham Bowen, Robert Jones a David Francis ymysg ei ddisgyblion. Yn ddiamau, diwydrwydd a brwdfrydedd Beynon sydd yn cyfrif am enwogrwydd Merthyr yng nghanol y ganrif ddiwethaf fel canolfan cerddoriaeth Deheudir Cymru. Yr oedd iddo gymeriad dilychwin, a mawr oedd ei barch gan bawb a'i hadwaenai. Bu farw yn 1876 a chladdwyd ef ym Mynwent y Cefn.

Cyffelyb i waith Rosser Beynon ym Merthyr oedd gwaith Alawydd ym Methesda. Ganed DAVID ROBERTS (Alawydd) yn Nhal-y-bont, Llanllechid, yn 1820. Gof oedd ei dad, yn un o chwareli'r Arglwydd Penrhyn. Symudodd y teulu yn fuan i Gae'r Berllan, ger Bethesda, ac oherwydd tlodi'r teulu niferus, bu'n rhaid i Alawydd ddechrau ennill ei fywoliaeth yn un ar ddeg oed. Pan oedd yn dair ar ddeg, ymunodd â Chymdeithas Gerddorol Bethesda, a chyn hir, medrai ddarllen cerddoriaeth yn dda. Yn ddiweddarach penodwyd ef yn godwr canu yng Nghapel Bethesda. Isel iawn oedd cyflwr cerddoriaeth ym Methesda ar y pryd, ac fe ysgrifennodd Alawydd amryw o ymarferiadau ar gyfer y dosbarthiadau canu a oedd yn ei ofal. Yn ddiweddarach, dangosodd yr ymarferiadau hyn i Ambrose Lloyd a Thanymarian. Canmolodd y ddau hyn ei waith, a'i annog i'w gyhoeddi. Felly yn 1848 cyhoeddodd y Gramadeg Cerddoriaeth. Yr oedd i hwn dair rhan, ac fe'i printiwyd yn y Bala. Ymddangosodd argraffiad diwygiedig yn 1862. Er nad oedd ond cymharol fyr, a bod ynddo lawer o dermau Saesneg dianghenraid, bu'n dra gwerthfawr. "Cyhoeddwyd Gramadeg Alawydd," medd- ai Emlyn Evans, "yn agos i ddiwedd yr hanner cyntaf o'r ganrif, ond i'r hanner dilynol y cariodd ei ddylanwad, ac er efallai nad hollol gywir fyddai dywedyd bod y gramadeg hwn gymaint uwchlaw gramadegau'r Millsiaid ag ydoedd yr olaf yn uwch na'r rhai a'u blaenorai, y mae'n eithaf gwir ei fod yn tra rhagori arnynt, ac yn rhoddi i'r Cymro wybodaeth a chyfarwyddyd mewn pynciau na chyffyrddwyd â hwy o'r blaen yn ei iaith ei hun . . . Y mae'n amhosibl mesur y gwasanaeth a fu'r gramadeg bychan ond cynhwysfawr hwn i gerddorion Cymru." Yn ei ragymadrodd i'r gramadeg, dywaid Alawydd, "Cyhoedd- wyd ef ar gais cantorion Bethesda a'r cymdogaethau, ynghyd ag amryw o weinidogion a chyfeillion cerddgar ac eiddgar dros les âd y genedl. Amcanwyd cyfleu egwyddorion cerddoriaeth yn fyr, eglur, a chynhwysfawr, mewn ffurf syml a dirodres."