Tudalen:Cerddoriaeth yng Nghymru (Cyfres Pobun).djvu/23

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Er i Alawydd ennill y wobr am yr anthem orau yn Eisteddfod Bethesda yn 1851, 1852 ac 1853, aeth ei holl gyfansoddiadau, oddieithr ei dôn "Catherine," i dir angof ers llawer dydd. Tua chanol y ganrif ddiwethaf, Bethesda, Llanidloes a Merthyr oedd y lleoedd mwyaf cerddorol yng Nghymru. Gwnaeth Alawydd fwy na neb arall tuag at ddyrchafu cerddor- iaeth ym Methesda, ac yr oedd safon canu yn uwch yno pan oedd ef yn ei flodau nag yn odid un ardal arall yng Nghymru. Pan gyhoeddodd Novello & Co. eu hargraffiadau rhad o oratorïau, ffurfiodd Alawydd glwb llyfrau fel y gallai'r chwarel- wyr brynu ac astudio'r gweithiau corawl gorau. Perfform- iodd côr o gant o leisiau ym Methesda y gweithiau hyn o dan arweiniad Alawydd: "Messiah," "Israel in Egypt," "Samson," "The Creation" ac "Ystorm Tiberias."

Er na chenir odid ddim o waith Alawydd heddiw, dylid cofio amdano oherwydd ei wasanaeth i gerddoriaeth Gymreig pan nad oedd ond ychydig o weithwyr ar y maes. Bu farw yn 1872, a chladdwyd ef ym mynwent Glanogwen, Bethesda.

Yr olaf a'r mwyaf adnabyddus o'r arloeswyr oedd JOHN ROBERTS (Ieuan Gwyllt). Ganed ef ym Mhenllwyn, ger Aberystwyth, yn 1822. Pobl gyffredin, yn hoff o gerddoriaeth, oedd ei rieni. Yr oedd ei dad yn ddechreuwr canu, a'i fam yn gantores dda. Yn nannedd pob anhawster bore oes, llwyddodd i ddysgu cerddoriaeth, a chyn cyrraedd ugain oed, bu'n cynnal dosbarthiadau canu yn yr ardaloedd o gwmpas ei gartref. Felly, dangosodd yn bur ieuanc yr awydd cynhenid a oedd ynddo i ddysgu ei gyd-wladwyr, peth a ddaeth yn nod- wedd bur amlwg yn ei holl fywyd. Treuliodd rai blynyddoedd fel athro ysgol, ac yna aeth i swyddfa cyfreithiwr, gan ddal i astudio yn y cyfamser.

Yn 1852, aeth i Lerpwl, lle y bu'n is-olygydd Yr Amserau o dan Hiraethog. Ar ôl chwe blynedd yno, torrodd ei gysylltiad â'r papur, a symudodd i Aberdâr, er mwyn bod yn olygydd Y Gwladgarwr. Yma cafodd gyfeillion cerddgar, sef David Rosser, Šilas Evans ac Alaw Ddu. Blwyddyn i'w chofio oedd 1859 iddo ef; arweiniodd ei gymanfa gyntaf (yn Aberdâr y bu hyn); priododd Miss Jane Richards, Aberystwyth; ymddiswyddodd o fod yn olygydd Y Gwladgarwr, a chy- hoeddodd ei Lyfr Tonau. Yr oedd wedi bod am flynyddoedd yn casglu tonau gorau'r gwahanol wledydd, a bu cerddorion Cymru'n edrych ymlaen at weled cyhoeddi ei lyfr. Bu'n