ro (y Parchedig J. D. Edwards a Thanymarian) y flaenoriaeth i Mr. Ambrose Lloyd, a Dr. S. S. Wesley i Owain Alaw; ond er bod mwyafrif y beirniaid yn dyfarnu'r wobr i Mr. Lloyd, efe a ewyllysiai yn hytrach iddi gael ei rhannu rhwng Owain Alaw ac yntau; ac felly y bu." Enillodd hefyd y wobr yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon yn 1862, â'i gantawd "Tywysog Cymru," y geiriau gan Geiriog.
Heblaw bod yn organydd a chyfansoddwr da, yr oedd hefyd yn ganwr bariton rhagorol, ac yn athro a beirniad llwyddiannus. Yr oedd y cyfansoddwr enwog Edward German yn ddisgybl iddo un tro. Nid oedd Owain Alaw yn gyfansoddwr mawr, ond gallai ysgrifennu alawon clir a syml a aeth yn syth at galon y Cymro. Ond byr fu hoedl ei waith creadigol. Er hyn yr oedd rhai o'i amryw ganeuon yn boblogaidd iawn ryw hanner can mlynedd yn ôl, caneuon fel "O peidiwch â dweud wrth fy nghariad," "Mae Robin yn swil," a'r hwiangerdd adnabyddus "Myfi sy'n magu'r baban" o'i gantata "Tywysog Cymru." Cafodd ei oratorio "Jeremiah" a gyhoeddwyd yn 1878, dderbyniad da ar y pryd. Y mae'n dilyn traddodiad oratoriau Handel. Ond er bod yn y gwaith hwn grefftwaith sicr a chwaeth dda, nid oes ynddo gymeriad cryf a nodweddion personol cyfansoddiadau Ambrose Lloyd. Perfformiwyd yr oratorio yn fynych yn niwedd y ganrif ddiwethaf, ond er hyn methodd gadw ei lle erbyn heddiw ymysg stoc corau Cymreig. Ond nid anghofia Cymru fyth mo enw Owain Alaw. Bydd cof amdano pe na bai am ddim ond ei Gems of Welsh Melody. Trefniadau o alawon cenedlaethol oedd y gwaith hwn, a chyhoeddwyd ef yn bedair rhan yn 1860. Daeth yn boblogaidd ar ei union drwy Gymru gyfan, ond disodlwyd ef tua deng mlynedd yn ddiweddarach gan Songs of Wales Brinley Richards. Er i Owain Alaw gyfansoddi llawer, ni chlywir ond ychydig o'i waith heddiw. Eto i gyd, yr oedd yn gerddor gwych, a gwnaeth lawer i wella cerddoriaeth ei wlad.
Ganed JOHN AMBROSE LLOYD yn yr Wyddgrug ar y pedwerydd dydd ar ddeg o Fehefin, 1815. Saer oedd ei dad—dyn myfyrgar a chrefyddol ei natur, a ordeiniwyd yn ddiweddarach yn weinidog ar Gapel Bedyddwyr Hill Cliffe, ger Warrington. Yr oedd ei fam yn chwaer i John Ambrose, Bangor, sef tad William Ambrose, y bardd-bregethwr enwog "Emrys." Ni wyddys ond ychydig am flynyddoedd cyntaf Ambrose Lloyd ar wahân i'r ffaith ei fod yn dra hoff o gerdd-