Tudalen:Cerddoriaeth yng Nghymru (Cyfres Pobun).djvu/29

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oriaeth, a bod ganddo lais trebl anghyffredin o swynol. Fe'i cafodd yn anodd i ddysgu cerddoriaeth, oherwydd prinder llyfrau. O'r diwedd llwyddodd i gael gafael ar Musical Grammar gan Callcot, ac fe aeth ymlaen i ddysgu trwy astudio'r llyfr hwn ac ychydig o oratorïau gan Handel. Cyn hir, yr oedd yn dechrau cyfansoddi, ac yn 1831 ysgrifennodd ei dôn adnabyddus "Wyddgrug," camp aruthrol i fachgen un ar bymtheg oed, hunan-ddysgedig. Ni chyhoeddwyd y dôn hyd 1835 pan ymddangosodd yn Y Gwladgarwr. Yr oedd yn arferiad, hyd yn oed yn y dyddiau hynny, gyhoeddi tonau mewn cyfnodolion.

Yn 1830 pan benodwyd Enoch Lloyd (y tad) yn weinidog ar Hill Cliffe, fe wasgarwyd y teulu, a thorri'r cartref yn yr Wyddgrug. Aeth Ambrose a'i frawd hynaf i Lerpwl— Ambrose gyda'r bwriad o fod yn athro ysgol. Cyn hir, dechreuodd ddysgu yn Ysgol Picton, ac yn ddiweddarach penodwyd ef i swydd gyffelyb yn y Mechanics Institute, lle y bu am ddeng mlynedd. Pan ddaeth i Lerpwl gyntaf, ymaelododd Ambrose Lloyd yng nghapel y Tabernacl, lle'r oedd Williams o'r Wern yn weinidog. Yn 1843 dilynwyd Williams o'r Wern gan y Parchedig William Rees (Gwilym Hiraethog). Er i Ambrose Lloyd, cyn dyfodiad Gwilym Hiraethog, adael y Tabernacl er mwyn arwain y gân yn Salem, Brownlow Hill ("sblit" o'r fam-eglwys) daeth y ddau'n gyfeillion mawr, a chafodd Lloyd lawer o gynhorthwy gan Gwilym Hiraethog, yr hwn a ysgrifennodd y geiriau ar gyfer ei gantata "Cwymp Babilon," ac a awgrymodd eiriau ar gyfer ei anthemau.

Yn 1843 cyhoeddodd Casgliad o Donau. Hwn oedd y casgliad gorau o'r math a oedd wedi ymddangos hyd hynny. Yn 1845 cystadleuai mewn eisteddfod am y tro cyntaf; yn y Groes-wen, ger Pontypridd yr oedd hon, ac fe enillodd Ambrose Lloyd y ddwy wobr am anthemau. Cafodd ganmoliaeth uchel gan y beirniad, Rosser Beynon. Yn ddiweddarach, yn 1846, pan gyhoeddodd Rosser Beynon Telyn Seion, cofiodd am hyn, ac anfonodd wahoddiad i Ambrose Lloyd gyfrannu ato. Ymysg y tonau a anfonodd Lloyd yr oedd "Eifionydd" a "Groes-wen" er cof am ei lwyddiant eisteddfodol cyntaf. Anfonodd hefyd ei anthem "Ac mi a glywais lais o'r nef" a ddaeth yn boblogaidd iawn wedi hynny. Tua'r adeg yma, ymunodd â'r Liverpool Philharmonic Society, a daeth felly i gyffyrddiad ag amryw o gerddorion Lerpwl, yn eu