Tudalen:Cerddoriaeth yng Nghymru (Cyfres Pobun).djvu/31

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cymru â thonau ac anthemau a fydd byw cyhyd â'r iaith Gymraeg. Ei anthemau gorau yw "Teyrnasoedd y Ddaear," ac "A bydd yn y dyddiau diweddaf." O'i dair cantata, yr unig un a genir heddiw, a hynny'n anfynych, yw "Gweddi Habacuc." Ychydig yw gwerth ei gerddoriaeth leygol, ac eithrio "Y Blodeuyn Olaf," ac y mae'n syn nad aeth ymlaen yn y cyfeiriad yma ar ôl llwyddiant mawr y gwaith hwn. Wrth fwrw golwg dros ei yrfa, rhaid inni beidio ag anghofio ei waith da fel arweinydd a beirniad. Dyn gwylaidd ydoedd, yn hoffi'r encilion. Yr oedd ganddo ddigon o synnwyr cyffredin, a chwaeth dda, ac fe gafodd ddylanwad llesol ar gerddoriaeth Cymru yn ei oes.

Ganed EDWARD STEPHEN (Tanymarian) yn Rhyd-y-Sarn, Dyffryn Maentwrog, yn 1822, yr un flwyddyn ag Ieuan Gwyllt. Daeth o deulu cyffredin, ac yr oedd ei dad yn hynod hoff o gerddoriaeth, ac yn ganwr da gyda'r tannau. Aeth y bachgen Edward i'r ysgol am ychydig o amser, ac wedyn prentisiwyd ef yn deiliwr, ond hyd yn oed mor ieuanc â hyn, ei brif ddiddordebau oedd cerddoriaeth a phregethu. Eithr methodd ganddo gael athro cerdd yn ei ardal ei hun, a buan iawn y daeth i wybod mwy am gerddoriaeth na'r rhai a fynnai ei ddysgu. Ni chafodd ei uchelgais am fod yn bregethwr ddim llawer o groeso ar y dechrau, oherwydd ei ddoniolwch a'i ddawn ddynwared. Eto i gyd, mynnodd ci ffordd, ac yn 1843, aeth i Goleg Annibynnol y Bala. Hyd hynny, Edward Stephen Jones oedd ei enw, ond gan fod eisoes un Edward Jones yn y coleg, galwyd ef yn Edward Stephen. Yn ystod ei bedair blynedd yn y Bala, cadwodd ei ddiddordeb mewn cerddoriaeth, nid drwy ei hastudio o ddifrif, ond trwy ddifyrru ei gyd- fyfyrwyr wrth ddynwared a chanu â'i lais bas gwych. Pan adawodd y coleg, ordeiniwyd ef yn weinidog Horeb, Dwy- gyfylchi; arhosodd yma bron ddeng mlynedd, ac yn ystod yr amser hwn, gwnaeth enw iddo'i hun fel pregethwr, dar- lithydd, bardd a cherddor. Yma y cyfansoddodd "Ystorm Tiberias," carreg-filltir bwysig yn hanes cerddoriaeth Cymru, oherwydd dyma'r oratorio gyntaf a gyfansoddwyd gan Gymro. Yn 1856 symudodd i Lanllechid, yn ymyl Bethesda, lle y daeth dwy eglwys o dan ei ofal-Bethel a Charmel. Yma y treuliodd weddill ei oes.

Bron yr unig beth sydd yn gwneuthur Tanymarian yn bwysig fel cyfansoddwr yw ei oratorio "Ystorm Tiberias."