Tudalen:Cerddoriaeth yng Nghymru (Cyfres Pobun).djvu/32

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ni chymerodd ond ychydig dros flwyddyn i'w hysgrifennu. Gorffennodd hi ar yr wythfed ar hugain o Fawrth, 1852. Cyhoeddwyd y gwaith yn dair rhan yn 1855. Dyma'r gwaith cyntaf o'i fath yng Nghymru, ac nid ymddangosodd yr un oratorio ar ei hôl yn y wlad hon am bum mlynedd ar hugain. Gorbrisiwyd y gwaith hwn, oherwydd cyflwr isel cerddoriaeth yng Nghymru ar y pryd. Ond rhaid cyfaddef ei bod yn ym- drech greadigol dda gan gyfansoddwr hunan-ddysgedig a ddatblygodd ei ddawn o dan anawsterau, heb unrhyw batrwm y gallai ei ddilyn, ar wahân i Handel. Yn ddiweddarach, llwyr ddiwygiwyd yr oratorio gan y cyfansoddwr, a threfnwyd hi ar gyfer cerddorfa gan Emlyn Evans. Perfformir hi'n achlysurol o hyd, ac o gofio am yr anawsterau ar ffordd ei chyfansoddi, nid teg beio gormod arni.

Yn 1868 cyhoeddodd Tanymarian a J. D. Jones Llyfr Tonau ac Emynau, ac fe ymddangosodd Atodiad yn 1877. Mae'n debyg na chyfrannodd Tanymarian lawer i'r casgliad hwn. Yn y ddau gasgliad, ni chynhwysir ond wyth o'i donau ef, a J. D. Jones a gafodd y gwaith o ddewis a golygu'r rhan fwyaf o lawer o'r tonau. Ar wahân i'r oratorio ac ychydig o donau, yr unig gyfansoddiadau o waith Tanymarian a haedda sylw yw ychydig o anthemau. Yr oedd un ohonynt, "Disgwylied Israel ar yr Arglwydd" yn boblogaidd iawn flynyddoedd yn 61. Yr oedd Tanymarian yn gymeriad amlwg yng Nghymru yn ei ddydd. Iddo ef, Ieuan Gwyllt ac Ambrose Lloyd, y mae diolch am wella cyflwr y Gymanfa Ganu yn chwe degau a saith degau y ganrif ddiwethaf. Bu farw Tanymarian yn 1885, ac fe'i claddwyd yn Llanllechid.

PENNOD IV

YR EISTEDDFOD A CHYFNOD Y GANIG

WRTH olrhain hanes cerddoriaeth Cymru, y mae'n amhosibl osgoi'r Eisteddfod yn hir. Yn ystod y pedwar ugain mlynedd. diwethaf bu tynged ein cerddoriaeth ynghlwm wrth yr Eisteddfod, ac y mae ôl ei llaw yn drwm ar ein canu. Yn ei dyddiau bore, ysywaeth, ni roes yr Eisteddfod lawer o gymorth i gerddoriaeth. Yn y cyswllt hwn, dywaid y Dr. J. Lloyd