Tudalen:Cerddoriaeth yng Nghymru (Cyfres Pobun).djvu/33

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Williams, "Hyd ganol y ganrif ddiwethaf, ychydig iawn oedd cyfraniad yr Eisteddfod i ddiwylliant cerddorol y genedl." Yn nechrau'r ganrif ddiwethaf, rhoes yr Eisteddfod le amlwg i lenyddiaeth, ac ychydig o ddylanwad a gafodd y pryd hwnnw ar gynnydd cerddoriaeth yng Nghymru. Eisteddfod Caerfyrddin yn 1819 oedd un o'r rhai pwysicaf yn y cyfnod cynnar. Cynhaliwyd hi mewn ystafell yng ngwesty'r Ivy Bush. Bardd y Brenin oedd beirniad canu'r delyn, ac yr oedd Iolo Morganwg yntau'n bresennol. Nid oedd yma ddim cystadleuaeth unawd lleisiol na chanu corau. Yr unig gystadleuwyr cerddorol oedd y telynorion (a'r rheini'n canu alawon gydag amrywiadau) a datgeiniaid penillion. Yn Eisteddfod Merthyr yn 1825 rhoddwyd gwobrwyon i'r telynor gorau ac ir datgeiniad gorau. Dyma'r tro cyntaf i ganwr unawd ymddangos mewn eisteddfod.

Yn Eisteddfod Caerdydd yn 1834 y gwelir cyfansoddwr yn ennill am y tro cyntaf, pan enillodd Brinley Richards y wobr gyntaf am ei amrywiadau i biano ar yr alaw "Llwyn Onn." Bachgen pymtheg oed ydoedd ar y pryd. Cynigiodd Eisteddfod Lerpwl hithau, yn 1834, wobrau am gyfansoddi (rhagor o amrywiadau ar alaw osodedig) a hefyd am yr alaw wreiddiol orau. Dyma gam pwysig ymlaen, ac o hyn allan daeth cynnig gwobrwyon am donau ac anthemau yn beth mwy cyffredin mewn eisteddfodau. Yr oedd y ddau fath o gerddoriaeth, sef cerddoriaeth genedlaethol a cherddoriaeth gysegredig, a oedd mor bwysig ym mywydau Brinley Richards, Owain Alaw, Ambrose Lloyd a Thanymarian, hefyd yn ddylanwad. mawr ar yr Eisteddfod gynnar.

Eithr yn nechrau'r chwe degau clywir nodyn newydd, nodyn lleygol, a newidiodd yn llwyr gwrs cerddoriaeth Gymreig am lawer blwyddyn i ddyfod. Y Ganig oedd y dylanwad newydd hwn. Yr oedd dau beth yn achosi'r newid hwn i gyfeiriad cerddoriaeth leygol; un peth a'i parodd oedd datblygiad canu corawl, oherwydd dyfod yr eisteddfod yn boblogaidd; y llall oedd y ffaith ddarfod i nifer bach o gyfansoddwyr gysegru eu dawn yn bennaf at gyfansoddi canigion a rhanganau. I lawer o bobl y mae'r cyfnod hwn, y gellir ei alw yn "Gyfnod y Ganig" (o tua 1860 hyd 1875) yn un o'r cyfnodau mwyaf diddorol yn hanes ein cerddoriaeth. Y mwyaf adnabyddus o'r canigwyr hyn oedd Gwilym Gwent, John Thomas (Blaenannerch), Alaw Ddu, Emlyn