Tudalen:Cerddoriaeth yng Nghymru (Cyfres Pobun).djvu/34

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Evans a Joseph Parry. Ysgrifennent hwy'n bennaf ar gyfer cystadlaethau eisteddfodol, ac er bod cystadlu brwd rhyngddynt a'i gilydd, yr oedd ysbryd hollol gyfeillgar ymysg y dynion hyn, a phawb yn ennill yn ei dro. Adwaenent ei gilydd yn dda, gohebent yn fynych y naill â'r llall ac arferent chwarae triciau ar ei gilydd. Er iddynt gyfansoddi tonau ac anthemau, yn y ganig yr oeddynt fwyaf llwyddiannus.

Ffurf fenthyg o Loegr oedd y ganig, a buan iawn y daeth yn boblogaidd yng Nghymru. Yr oedd y canigion syml a melodaidd hyn yn fendith i'r corau bychain a oedd yn codi ymhobman. Hoff destun y ganig Gymraeg oedd "Natur," ac fe ddisgrifid rhyw agwedd ar Natur yn y canigion mwyaf poblogaidd, e.e., "Y Gwanwyn," "Y Wawr," "Y Ffrwd," "Yr Haf," "Y Gwlithyn," etc. Ond yn y dechrau, defnyddid y ganig i hyrwyddo Dirwest. Dyma sylw Emlyn Evans yn ei erthygl ar "Y Ganig" yn Y Cerddor (Mehefin, 1893) ar y duedd hon: "Y lle cyntaf y deuwn ar draws y gair 'canig' fel yn gyfystyr â 'glee' yw y drydedd ran o'r Arweinydd Cerddorol (1845). Yno y cawn ganig ar Ddirwest. Ymddengys mai Dirwest oedd y testun canigol yn ystod y rhan gyntaf o'r cyfnod." Yn yr eisteddfodau a gynhaliwyd yn Aberdâr yn 1859, 1860 ac 1861, cyfansoddwyd yr holl ganigion ar eiriau dirwestol. (Nid yw ond teg ychwanegu mai Cymdeithas Ddirwestol Aberdâr a drefnodd yr eisteddfodau hyn). Enillodd Gwilym Gwent bump allan o'r saith wobr a roddwyd am ganigion yn y tair eisteddfod yma.

WILLIAM WILLIAMS (Gwilym Gwent). Prin iawn yw'r wybodaeth am ei fywyd. Y cwbl a wyddom yw ei eni yn Nhredegar yn 1838, ymfudo i'r America yn 1872, a marw yno yn 1891. Gof ydoedd wrth ei alwedigaeth, a bu'n ymdrechu'n galed i roi addysg gerddorol iddo'i hun. Dyn gwylaidd, hoffus ydoedd, fel y profir gan ei liaws cyfeillion. yma ac yn yr America ar y pryd. Nid ysgrifennodd ond dau o weithiau mawr, sef dwy gantata. Enillodd y gyntaf o'r rhain, "Y Mab Afradlon," y brif wobr yn Eisteddfod Aberystwyth yn 1865; a'r ail, "Plant y Tloty," yn Eisteddfod Treherbert ychydig o flynyddoedd yn ddiweddarach.

Nid oedd gan Gwilym Gwent ddim uchelgais, a gwastraffodd y dalent ddiamheuol a oedd iddo ar bob math o gystadlaethau eisteddfodol. Efallai mai hyn sy'n cyfrif am ei duedd i ail-adrodd yr un darnau o alawon a'r un dilyniadau