gorau eisteddfodol ddewis cytgan o waith Handel ar gyfer bron bob cystadleuaeth gorawl, gwelir bod pawb yn rhwym. o gael "y dwymyn Handelaidd." Yn sicr, yr enw mwyaf yn hanes cerddoriaeth Cymru oedd enw Handel.
PENNOD VI
Y GÂN GYMREIG
AETH llawer blwyddyn heibio, wedi i ganu corawl gartrefu yng Nghymru, cyn bod unrhyw ymgais at gyfansoddi caneuon. Tua chanol y ganrif ddiwethaf odid y ceid unrhyw ganeuon Cymraeg ar wahân i'r alawon cenedlaethol (yr oedd geiriau Cymraeg yn cael eu hysgrifennu iddynt y pryd hwnnw) a'r ymdrechion cynnar a wnaed gan Owain Alaw a J. D. Jones i ysgrifennu caneuon. Yn y pum degau, cyhoeddodd J. D. Jones ei lyfrau Y Delyn Gymreig ac Alawon y Bryniau, a oedd yn cynnwys y caneuon gwreiddiol cyntaf, yn ôl pob tebyg, a gyhoeddwyd erioed yng Nghymru. Fel gwaith arloeswr, yr oedd y casgliadau hyn yn bwysig, a daeth un neu ddwy o'r caneuon, er gwaethaf eu hansawdd elfennol, yn bur boblogaidd. Eithr fe'u disodlwyd hwy pan aeth cyfansoddwyr Cymru ati yn ddiweddarach, i gyfansoddi caneuon o ddifrif. Prif anhawster cyfansoddwyr Cymreig y dyddiau hynny oedd eu diffyg profiad ym myd cerddoriaeth offerynnol. Ni fedrai ond ychydig ohonynt ganu piano neu organ, ac o ganlyniad ni allent ysgrifennu cyfeiliant da i'w caneuon. Y rhan fynychaf, amrwd ac aneffeithiol oedd eu hymdrechion cyntaf yn y cyfeiriad hwn. Ond yr oedd Owain Alaw yn eithriad. Organydd proffesedig ydoedd, ac yn hen gynefin ag offerynnau allweddog. Eithr er iddo lwyddo i raddau wrth ysgrifennu ar gyfer corau, ni lwyddodd i ysgrifennu caneuon arbennig o dda. Boed a fo, yr oedd ei gyfeiliannau yn ddiargyhoedd; yr oeddynt bob amser yn dwt ac yn gywir, ac yn rhan o'r llwyddiant byrhoedlog a fu i ganeuon fel "O peidiwch â dweud wrth fy nghariad" a "Myfi sy'n magu'r baban."
Y mae'n ddiau ddylanwadu ar y gân Gymreig ar y cychwyn