Tudalen:Cerddoriaeth yng Nghymru (Cyfres Pobun).djvu/45

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gan yr hen faledi, a oedd yn perthyn yn agos i'r hen alawon. cenedlaethol, ac a oedd weithiau'n hanfodol glwm wrthynt. Yr oedd hyd yn oed y telynegwyr cyntaf yn ysgrifennu yn arddull yr hen faledi, a dyma, y mae'n debyg, y rheswm paham y mae'r caneuon Cymraeg hynaf, ac weithiau'r rhai diweddarach, wedi eu hysgrifennu yn y dull hwn. Y mae'n werth sylwi bod rhai o ganeuon mwyaf poblogaidd R. S. Hughes wedi eu hysgrifennu yn null yr hen faledi. Yr oedd dyfodiad cantorion enwog fel Edith Wynne, Mary Davies, Eos Morlais, Ben Davies a Ffrangcon Davies yn beth tra phwysig yn natblygiad y gân Gymreig, oherwydd daeth galw mawr am y math yma o gerddoriaeth, ac fe dynnwyd sylw cyfansoddwyr at y ffurf hon o gyfansoddi. Yn wir fe ysgrifennwyd llawer o ganeuon ar gyfer y cantorion hyn.

Un o nodweddion y caneuon Cymreig oedd bod y rhan i'r llais fel rheol yn ganadwy a diymdrech. Efallai y gellir priodoli hyn i'r ffaith fod llawer o'r cyfansoddwyr caneuon, megis Megan Watts-Hughes, William Davies, Pughe Evans a John Henry (awdur enwog "Gwlad y Delyn") yn gantorion proffesedig. Yr oedd hyd yn oed Joseph Parry, a ysgrifennodd rai caneuon da, yn ganwr bariton pan oedd yn ddyn ieuanc. Dywedir mai ei fynych absenoldeb o'r coleg er mwyn canu mewn cyngherddau a oedd wrth wraidd ei anghydfod â'r awdurdodau yn ystod yr amser yr oedd yn gofalu am adran gerddorol Aberystwyth, ac a arweiniodd yn y diwedd i'w ymddiswyddiad. Yn y cyngherddau hyn, canai ei ganeuon ei hun, gan gyfeilio iddo'i hun ar yr harmoniwm.

Wrth ddewis geiriau ar gyfer eu caneuon, dangosodd y cyfansoddwyr yn fynych chwaeth isel resynus. Nid oedd y geiriau'n aml yn haeddu eu gosod ar gân o gwbl. Disgrifient ystormydd erchyll, a diangfeydd argyfyngus ar dir a môr, e.e., "Y Llong a'r Goleudy," "Brad Dunrafon," "Llam y Cariadau," etc. Yn y pegwn arall, cawn ganeuon hiraethus am fam a chartref. Y mae "Bwthyn bach melyn fy nhad," "Cartref" a "Llythyr fy Mam" yn enghreifftiau da o'r math hwn. Yr oedd cynulleidfaoedd Cymreig yn dotio at ganeuon fel hyn, oherwydd bu galw mawr amdanynt, ac nid ydynt yn llwyr allan o'r ffasiwn eto.

Un o ganeuon mwyaf adnabyddus Emlyn Evans oedd "Bedd Llywelyn." Dechreuai'r gân gydag adroddgan, ac ar ôl hyn bu'n ffasiwn am beth amser i ddechrau cân yn y dull