Tudalen:Cerddoriaeth yng Nghymru (Cyfres Pobun).djvu/46

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hwn. Benthyciad o Loegr, fel y ganig, oedd syniad yr adroddgan. Y cyfansoddwys caneuon gorau yng Nghymru yn ystod y ganrif ddiwethaf oedd Emlyn Evans, Joseph Parry, Pughe Evans, William Davies ac R. S. Hughes. Yr ydym eisoes wedi trafod gwaith Emlyn Evans a Joseph Parry-nid rhaid ond ychwanegu nad eu caneuon oedd eu gwaith gorau. Ond fe genir ychydig o'u caneuon heddiw mewn cyngherddau, er enghraifft, "Baner ein Gwlad," "Hoff wlad fy ngenedigaeth" a "Yr Eos," o waith Joseph Parry, a "Hen wlad y menyg gwynion" a "Bedd Llywelyn" gan Emlyn Evans.

Ganed DAVID PUGHE EVANS yng Nghynwyl Elfed, Sir Gaerfyrddin, yn 1866, lle'r oedd ei dad yn ffarmwr. (Fe'i ganed o fewn ergyd carreg i gapel Dafydd Evans, Ffynnon Henri). Yr oedd yn hoff o gerddoriaeth, a dysgodd ganu'r ffidil pan oedd yn hogyn. Prentisiwyd ef yn llanc i ddilledydd yn Llanelli, ac yn ystod yr amser hwn daeth yn aelod o gôr R. C. Jenkins, yng Nghapel Seion. Dywedir iddo gael gwersi mewn cynghanedd gerddorol gan Joseph Parry. Yn ddiweddarach, datblygodd ei lais, a daeth yn denor da; daeth trobwynt ei yrfa pan enillodd ysgoloriaeth am dair blynedd yn y Royal College of Music yn Llundain. Yr oedd erbyn hyn yn un-ar-hugain oed, a phenderfynodd fod yn ganwr proffesedig. Ar ôl gadael y coleg, ymunodd â chwmni opera Arthur Rousby, a chymerodd rai o'r prif rannau i denor. Ni bu erioed yn gryf ei iechyd, a thoc fe waethygodd, ac oherwydd hyn collodd ei lais. I ganwr ar drothwy ei yrfa, yr oedd hyn yn ergyd lethol ; ond i Gymru yr oedd yn fendith ddiarwybod, oherwydd bu'n rhaid i Pughe Evans ymroddi i yrfa o ddysgu canu, ac ysgrifennu caneuon. Gwnaeth ei gartref yn Abertawe, ac o hynny ymlaen bu'n byw bywyd undonog athro canu gydag ambell egwyl o gyfansoddi caneuon. Y mae'r rhain ymysg y gorau a feddwn. Oherwydd ei brofiad fel canwr, gallai ysgrifennu alawon yn llawn mynegiant a hawdd eu canu. Yr oedd ei addysg fel cerddor, a'i ddawn canu piano yn peri bod ei gyfeiliannau yn artistig ac yn ddiddorol. Ei gân gyntaf oedd "Yr Hen Gerddor." Fe'i cenir gan bob tenor Cymreig, ac yn sicr dyma un o'r caneuon mwyaf dwys a ysgrifennwyd erioed. Eithr ei gân orau yw "Tyr'd, Olau Mwyn." Yr oedd y ffaith fod Novello wedi cyhoeddi'r gân hon ynddi ei hun yn glod mawr y dyddiau hynny. Daeth hyn ag ef i fri fel cyfansoddwr caneuon, ac nid yw'n syn, oherwydd buasai cân