Tudalen:Cerddoriaeth yng Nghymru (Cyfres Pobun).djvu/47

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

o'r safon hon yn ddigon i wneuthur enw i gyfansoddwr ieuanc, hyd yn oed heddiw. Dyma, yn ddi-ddadl, y gân gysegredig orau a ysgrifennwyd erioed gan gyfansoddwr o Gymro. Ysgrifennodd lawer o ganeuon da eraill, ac fe genir rhai ohonynt heddiw, megis "Cymru fy Ngwlad," "Brad Dunrafon" a "Y Ddwy Delyn," ond i'm tyb i, y mae ganddo ddwy gân sydd wedi eu hesgeuluso ar gam, sef "Return unto thy rest" cân gysegredig neilltuol o dda, a "Hyd fedd hi gâr yn gywir." Trefnwyd yr olaf yn bur fedrus gan y cyfansoddwr ar ffurf canon.

Gellir cymharu'r digwyddiad anffodus a roes ben ar yrfa Pughe Evans fel canwr â'r ddamwain anffodus a rwystrodd Schumann rhag bod yn bianydd enwog. Gyda Schumann, yntau, yr oedd dynoliaeth ar ei hennill, oherwydd cyfansoddodd ef lawer ar gyfer y piano.

Er nad ysgrifennodd ddim gweithiau mawr ar gyfer corau, cyfansoddodd Pughe Evans rai darnau i gor a oedd yn rhyfeddol o dda, ac a bery'n boblogaidd hyd heddiw. Fe genir ei drefniant o'r hen alaw Gymreig "Y Delyn Aur" gan bob côr meibion. Felly hefyd ei fadrigal swynol "Teyrnged Cariad" ("Lovely Maiden"). Fe esgeulusir ei rangan i leisiau cymysg -"Nos da'r Perorion," ac yn sicr ni haedda hyn. Bu farw yn Abertawe yn 1897 pan nad oedd ond un ar ddeg ar hugain mlwydd oed.

Ganed R. S. HUGHES yn Aberystwyth yn 1855. Mab ydoedd i siopwr, a oedd yn hoff o gerddoriaeth a cherddorion. Cafodd ei fab bob cefnogaeth i ddatblygu ei ddawn gerddorol. Dysgodd R. S. Hughes ganu'r piano yn ieuanc iawn, ac edrychid arno fel rhyfeddod. Clywn amdano'n cymryd rhan, pan nad oedd ond pump oed, mewn cyngerdd a roddodd Owain Alaw yn Aberystwyth. Yn ddeg oed, enillodd y wobr am ganu'r piano yn Eisteddfod Aberystwyth. Ar yr achlysur hwn creodd ei berfformiad dipyn o gynnwrf, ac ar ôl iddo orffen, dyna Brinley Richards, y beirniad, yn codi'r bachgen bach ar ei fraich, fel y gallai'r gynulleidfa ei weled. Datblygodd ei ddawn ganu piano fel yr âi'n hŷn, nes iddo ddyfod yn bencampwr ei oes yng Nghymru yn y gelfyddyd honno. Yr oedd hon yn ddawn a fu'n ddefnyddiol iddo'n nes ymlaen pan ddechreuodd ysgrifennu caneuon. Pan oedd yn bymtheg oed, aeth i'r Royal Academy of Music. Yma ni ddaeth yn ei flaen gystal ag y disgwylid. Y mae'n debyg mai'r rheswm.