gerddor arall a aned yn y saith degau, a gymerodd fel prif nod eu bywyd, wella cerddoriaeth yng Nghymru, a hynny er mai o'r tu allan i Gymru yr oeddynt yn byw. Harry Evans a Vincent Thomas oedd y rheini.
Problem y dynion hyn i gyd oedd sut y gallent ennyn diddordeb eu cydwladwyr yn y gerddorfa. Y mae'r broblem hon yn bod hyd heddiw. Ni chafodd eu hymdrechion fawr o effaith, gan mor ddidaro yw'r Cymry o'r cychwyn tuag at gerddoriaeth offerynnol. Ond er i'r cyfansoddwyr hyn fethu cael gan y bobl gymryd at gerddoriaeth i gerddorfa ar ei phen ei hun, fe lwyddasant i wneuthur y gerddorfa yn rhan hanfodol o berfformiadau corawl, ac ysgrifennu llawer iawn o weithiau i gör gyda chyfeiliant cerddorfa. Y mae'n resyn na ddarfu i Caradog Roberts, er cymaint ei ddoniau, ymroi i gyfansoddi o ddifrif. Ni chawsom ganddo ond dyrnaid o donau poblogaidd ac un neu ddau o ddarnau i gôr meibion. Aeth ei amser i gyd i ganu'r organ mewn cyngherddau, arwain cymanfaoedd canu, a beirniadu mewn eisteddfodau. Ond fe wnaeth y gwaith hwn yn nodedig o dda, a bu'n un o ddynion mwyaf ei oes yn y byd cerddorol yng Nghymru.
Fe aned D. CHRISTMAS WILLIAMS yn Llanwrtyd yn 1871. Bu'n astudio cerddoriaeth o dan y Dr. Joseph Parry yng Nghaerdydd, a'r hyn a'i dug i'r golwg oedd ennill ohono'r brif wobr o ugain punt yn Eisteddfod Genedlaethol y Rhyl yn 1892 gyda'i gantata "Traeth y Lafan." Yn ddiweddarach perfformiwyd y gwaith hwn yn Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Ffestiniog. Ar ôl hyn, gwnaeth ei gartref ym Merthyr lle y bu'n organydd ac yn athro. Ei waith mwyaf uchelgeisiol yw ei "Psalms of Praise," i unawdau, côr a cherddorfa. Cafodd hwn ei berfformiad cyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor yn 1902, ac fe'i darlledwyd yn 1938 gan Gôr Unedig Dowlais. Er bod yn y gwaith hwn rai darnau effeithiol i gor, braidd yn anwastad a hen ffasiwn yw ei arddull, ac fe ymddengys nad apeliodd lawer at gorau Cymreig. Yr oedd y cyfansoddwr hwn yn fwy llwyddiannus yn ei ddarnau corawl byrion, ac fe ysgrifennodd rai rhanganau ardderchog i leisiau cymysg. Y gorau o'r rhain yw "Hwyrgan yr Indiaid" a "The Sands of Dee." Bu rhai o'i gytganau i gôr meibion, yn enwedig "The Destruction of Pompeii" a "Homeward Bound" yn boblogaidd iawn am rai blynyddoedd, ond anfynych y clywir hwy heddiw.