Tudalen:Cerddoriaeth yng Nghymru (Cyfres Pobun).djvu/54

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ymysg ei gyfansoddiadau i gerddorfa y pwysicaf yw "Suite in D minor" ac "Overture in C minor." Yr un fath â'i gyfansoddiadau i gör gyda chyfeiliant cerddorfa, fe ddengys y rhain allu technegol mawr, ond ni cheir ynddynt nac ysbrydiaeth na gwreiddioldeb.

Ganed DAVID VAUGHAN THOMAS yn Ystalyfera yn 1873, ond yn fuan wedi ei eni, symudodd y teulu i Bontardulais. Pan oedd yn fachgen, ei hoff bynciau oedd cerddoriaeth a mathemateg, pynciau y gwnaeth yn wych ynddynt yn ddiweddarach. Cafodd rai gwersi cerddoriaeth gan Joseph Parry, ac yna aeth yn fyfyriwr i Goleg Llanymddyfri. Wedi pedair blynedd yno, enillodd ysgoloriaeth mewn mathemateg i Goleg Exeter, Rhydychen. Ýma y graddiodd yn Mus. Doc. ac yn M.A. Bu am ychydig wedi hyn ar staff ysgol Harrow, ac yna dychwelodd i Gymru, gan ymsefydlu ym Mhontardulais. Dwy flynedd wedyn, yn 1908, symudodd i Abertawe, ac yma y bu ei gartref am weddill ei oes. Gweithiodd yn ddyfal, gan ddysgu, beirniadu, a chyfansoddi, hyd 1927, pan benodwyd ef yn arholwr teithiol dros y Trinity College of Music yn Llundain. Golygai hyn deithio diddiwedd, yn bennaf yn Nhrefedigaethau Prydain. Ar un o'r teithiau hyn yn Neheudir Affrig y bu farw, yn Johannesburg, yn 1934.

Awgryma gyrfa Vaughan Thomas iddo gael ei siomi a'i rwystro, ac ni ellir llai na theimlo bod peth cyfiawnhad i hyn. Nid yw'n glod i Gymru fod un o'i cherddorion mwyaf wedi ei droi'n alltud am gyfnodau hir er mwyn ennill ei fywoliaeth. Ni sylweddolwyd gennym nes dyfod y newydd am ei farw, y fath dalent aruchel a wastraffwyd trwy'n hesgeulustod a'n difaterwch ni ein hunain. Pe bai'r bwriad o sefydlu cadair cerddoriaeth yng Ngholeg Abertawe yn 1926, wedi ei gyflawni, fe ddichon y byddai popeth yn iawn, a buasai'r lles i gerddoriaeth Cymru yn anfesuradwy; ond collwyd y cyfle, ac nid oes ond gofidio ddarfod colli talent a allasai wasnaethu ei wlad yn llawer llawnach.

Yr ydym eisoes wedi trafod caneuon Vaughan Thomas. Ar ryw ystyr, dyma'r gwaith sydd fwyaf nodweddiadol ohono, oherwydd mynegant ei welediad artistig, ei ysgolheictod, ac yn bennaf oll ei gariad gwresog tuag at Gymru. Eithr y mac ganddo amryw weithiau eraill sy'n haeddu sylw. Fel ysgrifennwr i gerddorfa, ni chynhyrchodd unrhyw beth arbennig; ei waith gorau yn y maes hwn yw'r "Overture and