ngholegau'n prifysgolion, ac felly nid oedd cymaint o angen am goleg o'r fath.
Ni chyfansoddodd lawer iawn, gan mor brysur y bu fel arweinydd a beirniad; ond fe gyfansoddodd ddau waith mawr. Y mae'r cyntaf o'r rhain, sef "The Victory of St. Garmon" ar ffurf cantata, i unawdwyr, côr a cherddorfa. Elfed yw awdur y geiriau, ac fe ysgrifennwyd y gwaith yn arbennig ar gyfer Gŵyl Caerdydd yn 1904, a chafodd dderbyniad gwresog. Cafodd ei berfformio nifer o weithiau mewn gwahanol rannau o'r wlad, ond ni ddaeth corau yn hoff ohono. Y mae'n waith diddorol, ond nid oes ynddo yr uchafbwyntiau dramatig sydd mor hoff gan gôr a chynulleidfa mewn gweithiau o'r math hwn. Ei ail waith mawr yw "Dafydd ap Gwilym." Cantata ramantus yw hon, yn seiliedig ar ddigwyddiadau ym mywyd y bardd. David Adams (Hawen) a ysgrifennodd y geiriau. Perfformiwyd y gantata hon y tro cyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Llangollen (1908), a chafodd ei darlledu o Gymru rai blynyddoedd yn ôl. Y mae ynddi ryw swyn a newydd-deb, a defnyddir alawon cenedlaethol Cymru ynddi mewn ffordd gywrain. Fe ddyry hyn awyrgylch hapus a rhamantus iddi. Y mae ynddi hefyd un neu ddau o gorawdau ardderchog_ac y mae ym "Molawd Cariad" rym, ehangder ac urddas. Y mae'n drueni na chlywir y gwaith hwn yn amlach.
Ar wahân i'r darnau a grybwyllwyd, nid ysgrifennodd lawer i gôr, oddieithr ei drefniadau adnabyddus o "Gwŷr Harlech" ac "Ar hyd y nos," a rhangan ragorol, "Myfanwy," i gor meibion. Yr oedd Harry Evans yn arweinydd galluog, cerddor gwych, a phersonoliaeth gref. Ergyd fawr i Gymru. oedd ei farw yn 1914 yn un a deugain oed.
Ganed VINCENT THOMAS yn Wrecsam, ond aeth i Lundain yn gynnar ar ei oes i weithio mewn banc. Treuliodd ei oriau hamdden yn astudio cerddoriaeth, a chyn hir trôdd ati i ffurfio cerddorfa o dan ei arweiniad ef ei hun. Bu'r Gymdeithas yn gymaint o lwyddiant fel y penderfynodd roddi ei amser yn gyfangwbl i gerddoriaeth. Yn ddiweddarach yn ei fywyd dewiswyd ef yn arweinydd i Gymdeithas Gorawl Westminster, a chadwodd y swydd am ddwy flynedd ar bymtheg. Yn ystod yr amser hwn trefnodd y Gymdeithas tual deg cyngerdd a thrigain, dau ohonynt yn cynnwys gweithiau gan gyfansoddwyr Cymreig yn unig. Er gwaethaf yr holl