Tudalen:Cerddoriaeth yng Nghymru (Cyfres Pobun).djvu/59

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

waith a ddeuai i'w ran fel athro cerddoriaeth, arweinydd a beirniad, llwyddodd i gael amser i roddi sylw i ochr greadigol ei gelfyddyd, ac y mae'r rhestr o'i gyfansoddiadau yn cynnwys pedair opera (pob un ohonynt wedi ei seilio ar destun Cymreig), tair opera ysgafn, cerddoriaeth i dair drama, pum darn i gerddorfa a chôr, ugain o weithiau i gerddorfa yn unig, a nifer o ganeuon a rhanganau.

Er na chafodd Vincent Thomas addysg gerddorol, ond yr hyn a gasglodd ef ei hun, yr oedd yn gerddor medrus, diwylliedig, gyda chwaeth gerddorol arbennig. Nid oes nemor Gymro wedi dangos cymaint o fedr a chrefft wrth gyfansoddi ar gyfer cerddorfa, ac yn wahanol i'r rhan fwyaf o gyfansoddwyr Cymreig, medrai ysgrifennu ar gyfer cerddorfa mor fedrus ag ar gyfer y llais. Ei brif weithiau yw ei operâu "Enid" a "The Quest of the Grail." Ernest Rhys yw awdur geiriau'r ddwy. Ei waith gorau i gor yw ei osodiad o "Y Bumed Gerdd" Taliesin. Y tro cyntaf y perfformiwyd ac y darlledwyd y gwaith hwn oedd yn 1942, gan Gôr Unedig Dowlais, o dan arweiniad D. T. Davies. Ysgrifennodd hefyd gorawd ardderchog i gôr meibion, sef "De Profundis," rhai rhanganau swynol i leisiau merched, a nifer mawr o ganeuon Saesneg a Chymraeg.

Bu farw yn Llundain yn 1940.

PENNOD VIII

RHWNG DAU RYFEL

WRTH drafod gwaith y cyfansoddwyr y soniwyd am hanes eu bywydau yn y bennod flaenorol, dywedwyd mai bychan o lwyddiant a fu i'w hymgais i hyrwyddo cerddoriaeth y gerddorfa yng Nghymru, ac nid eu bai hwy oedd hynny. Yr oedd amryw resymau am hyn: (a) nid oedd cyfansoddwyr Cymru'n ddigon cynefin â defnyddio'r gerddorfa fel cyfrwng artistig, a methasant ysgrifennu gweithiau i dynnu sylw'r cyhoedd; (b) ar wahân i'r cyfansoddwyr eu hunain, mewn cerddoriaeth gorawl, yn bennaf, yr oedd diddordeb y Cymry ac ni wyddent ddim am y gweithiau gorau i gerddorfa, gan anwybyddu'r hyn a wneid yn y ffurf hon gan ein cyfansoddwyr;