Tudalen:Cerddoriaeth yng Nghymru (Cyfres Pobun).djvu/60

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

(c) Ychydig o gyfleusterau a gafwyd i glywed cerddorfa o safon uchel yng Nghymru, ac ni chafwyd yma yr un gerddorfa sefydlog. Yr elfen economaidd a gyfrifai'n bennaf am hyn, ond fe erys y ffaith mai anaml y gallai cyfansoddwr o Gymro glywed datganiad o'i waith, ac o ganlyniad ni allai'r Cymry feirniadu gwaith y dynion hyn.

Cyn trafod cwrs cerddoriaeth Cymru o 1919 hyd 1939 (y cyfnod rhwng y ddau ryfel mawr), dylid egluro bod gwaith diweddarach rhai o'r cyfansoddwyr a enwyd yn y bennod ddiwethaf, yn dyfod i'r cyfnod hwn (wrth ymdrin â bywydau'r cyfansoddwyr, y mae hi weithiau yn amhosibl osgoi gorgyffwrdd o'r math yma).

Yn niwedd y rhyfel mawr cyntaf, daeth cyfnod o arbraw yn hanes cerddoriaeth, fel yn hanes y rhan fwyaf o'r celfyddydau eraill, pan chwiliwyd am syniadau newydd, a dulliau gwahanol o'u mynegi. Daeth yr ysbryd anturiaethus hwn i Gymru hithau, a dyfod enwau a sefydliadau newydd i'r golwg. Ymhlith y sefydliadau newydd hyn, yr oedd Cyngor Cerdd Cymru a sefydlwyd yn. 1919, a'r B.B.C. yn 1922. Cymerodd y ddeubeth hyn ran bwysig yn natblygiad cerddoriaeth ein gwlad. Sefydlwyd y Cyngor Cerdd er mwyn "gweithredu. fel y prif gorff ymgynghori ynglŷn â holl faterion yn ymwneuthur ag addysg gerddorol yng Nghymru." Gwnaeth y Cyngor waith ardderchog, ac ymysg ei fawr weithgarwch, bu trefnu "Gŵyl y Tri Chwm" a "Gwyl Maldwyn." Yn y rhain, casglwyd at ei gilydd adnoddau cerddorol ardaloedd eang, gyda chanlyniadau rhagorol. Rhaid inni beidio ag anghofio'r gefnogaeth a roddwyd gan y Cyngor i gyfansoddwyr Cymreig drwy gyhoeddi eu gwaith o bryd i bryd. Fel y mae gwaetha'r modd, talfyrrwyd peth ar ei waith da oherwydd y rhyfel presennol, a marw Syr Walford Davies, a oedd yn Gyfarwyddwr y Cyngor Cerdd, ond yn sicr fe dry Cymru at y Cyngor pan ddaw'r angen am arweiniad yn y blynyddoedd anodd sydd o'i blaen. Dyma'r enwau pwysicaf ar ochr greadigol cerddoriaeth yn ystod y cyfnod o dan sylw: David Vaughan Thomas, T. Hopkin Evans, Vincent Thomas (yr ydym eisoes wedi eu trafod), John Owen Jones, E. T. Davies, David de Lloyd a Morfydd Owen. Daeth hefyd ychydig o gyfansoddwyr ieuainc i'r amlwg, y cawn sôn amdanynt yn y bennod nesaf.

Y mae JOHN OWEN JONES yn adnabyddus fel cyfan-