Tudalen:Cerddoriaeth yng Nghymru (Cyfres Pobun).djvu/64

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gan gyfansoddwyr Cymreig yn ystod y deng mlynedd diwethaf yn aruthrol fwy na'r hyn a geid ganddynt yn ystod unrhyw ddeng mlynedd cynt. Gwir yw i'n cyfansoddwyr gael rhagor o gyfleusterau, a chredaf mai'r radio a roes y cyfleusterau hyn trwy roddi siawns iddynt gael perfformio eu gweithiau, a thrwy ennyn diddordeb y llu mawr o wrandawyr.

Cyn dyfod darlledu, yr unig gyfle bron a gâi cyfansoddwr o Gymro i glywed ei waith ef ei hun oedd mewn un o gyngherddau'r Eisteddfod Genedlaethol neu yn un o'r gwyliau canu. Y rhan amlaf, ni chafodd unrhyw waith a berfformiwyd yn y cyngherddau hyn ei glywed wedyn. Heddiw, os bydd. cyfansoddwr yn ysgrifennu darn o'r radd flaenaf, gellir ei ddarlledu drocon mewn cyfnod byr. Golyga hyn fod ei waith yn cael ei glywed nid yn unig gan ei gydwladwyr ef ei hun, ond gan wrandawyr drwy'r holl fyd. Digwyddodd hyn eisoes i'r cyfansoddwyr Cymreig hynny y darlledwyd eu gwaith yn fynych yng Ngwasanaeth Tramor y B.B.C.

Wrth ddilyn hanes cerddoriaeth Cymru yn ystod y can mlynedd diwethaf, y mae'n ddiddorol atgoffa'n gilydd gymaint o weithiau y daroganodd cerddorion Cymreig fod rhyw ddadeni mawr i gerddoriaeth Cymru ar ddyfod. Gau broffwydoliaeth bob tro; eithr heddiw temtir dyn i edrych ar yr ochr olau a phroffwydo'r un peth, a chymaint o'n cyfansoddwyr yn cynhyrchu llawer gwell gwaith nag a gaed yn y gorffennol. Yn awr, soniwn yn fyr am gyfansoddwyr heddiw, sydd wedi rhoddi sylw arbennig i'r gerddorfa.

Yr hynaf a'r mwyaf toreithiog o'r rhain yw. RICHARD MALDWYN PRICE, a aned yn 1890. Mab ydyw i'r diweddar T. Maldwyn Price, a oedd yn adnabyddus fel cyfansoddwr y darnau poblogaidd i gôr meibion, "Crossing the Plain" a "The Fishermen." Cafodd Maldwyn Price, y mab, yn wahanol i'r rhan fwyaf o'i gyd-gyfansoddwyr, ei holl addysg yng Nghymru. Bu'n fyfyriwr yng Ngholeg Aberystwyth, a graddiodd yn B.Mus. yn 1911. Ef oedd y myfyriwr cyntaf i ennill y radd o D.Mus. Prifysgol Cymru. Bu yn y fyddin yn ystod y rhyfel o'r blaen, a phan dderbyniodd y radd D.Mus. yn ffurfiol, cymerwyd ef i'r ddalfa am fod yn absennol o'r fyddin heb ganiatâd! Er 1933 y mae'n dal y swydd o organydd Eglwys Fair, y Trallwng, swydd y bu ei dad ynddi o'i flaen.

Gweithiau i gerddorfa yw'r rhan fwyaf o'i gyfansoddiadau