ef. Cynnwys y rhain symffoni, a ysgrifennodd ar gyfer y radd D. Mus. (Nid yw eto wedi ei pherfformio); deg cyfres— llawer ohonynt ar alawon Cymreig ac alawon gwerin; tair bugeilgan; tri agorawd; "A Welsh Prelude"; "Fantasy-Overture, Glyndŵr"; "Introduction and Scherzo?"; a nifer o ddarnau llai. Y mae'n debyg mai ei weithiau gorau yw ei "Introduction and Scherzo" a'r "Fantasy-Overture, Glyndŵr." Ysgrifennwyd y cyntaf ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Lerpwl yn 1928, a chafodd ei ddarlledu nifer o weithiau. Cafodd "Glyndŵr" ei berfformiad cyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Machynlleth (1937), â'r cyfansoddwr yn arwain. Perfformiwyd ef eilwaith y flwyddyn ganlynol yng Ngŵyl y Tri Chwm yn Aberpennar. Trefnwyd y gwaith hwn gan y cyfansoddwr i seindorf bres hefyd, ac yn y ffurf hon y dewiswyd ef yn ddarn cystadleuol yn yr Eisteddfod Genedlaethol rai blynyddoedd yn ôl.
Wrth bwyso a mesur gwaith Maldwyn Price, daw dau beth i'r amlwg, ei allu arbennig i ysgrifennu ar gyfer cerddorfa, a'i ddawn i lunio alawon trawiadol a diymdrech. Wrth feirniadu un o'i gyfansoddiadau yn Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin yn 1911, disgrifiodd y diweddar Walford Davies ef fel "The Welsh Schubert." Y mae'n rhyfedd nad ysgrifen- nodd fwy o weithiau lleisiol a chanddo yntau gystal dawn i lunio alawon; efallai mai'r rheswm am hyn yw bod ganddo'r fath rwyddineb rhyfeddol ac athrylith ddiamheuol wrth gyfansoddi ar gyfer y gerddorfa.
Un o'r Barri yw GRACE WILLIAMS. Y mae ei thad, W. M. Williams, yn gerddor eiddgar, a bu ar daith yn yr America a Chanada rai blynyddoedd yn ôl fel arweinydd Côr Bechgyn Romilly.
Dechreuodd Grace Williams astudio cerddoriaeth yng Ngholeg Caerdydd, a graddio'n B.Mus. Oddi yno, cafodd ysgoloriaeth i'r Royal College of Music a bu'n astudio cyfansoddi gyda'r Dr. Vaughan Williams. Wedyn astudiodd am flwyddyn yn Vienna gydag Egon Wellesz. Hi yn sicr yw'r bersonoliaeth fwyaf blaengar yn y byd cerddorol yng Nghymru heddiw. Er ei holl ddiddordeb yn nhueddiadau a dulliau cerddoriaeth mewn gwledydd eraill, nid yw byth yn anghofio mai Cymraes ydyw, ac y mae'n cyfuno dealltwriaeth eang o gerddoriaeth ddiweddar drwy'r byd â gwir gariad at ein cerddoriaeth werin ni Gymry. Cynllunia ar raddfa fawr, a baidd sylweddoli ei chynlluniau.