Ysgrifennodd Grace Williams amryw weithiau pwysig i gerddorfa, a rhai ohonynt wedi eu sylfaenu ar gerddi gwerin Cymreig. Y mae blas Cymreig pendant ar yr agorawd cyngerdd "Hen Walia," gwaith a berfformiwyd gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon yn 1935, ac a ddarlledwyd droeon. (Nid Cymru yw ystyr y gair "Walia" yn y teitl, ond ffurf lafar ar "waliau," gan gyfeirio at yr hen furiau yng Nghaernarfon). Er mai gwaith cynnar yw'r agorawd, dengys fedr technegol Grace Williams i ysgrifennu yn y dull modern, a hefyd ei hoffter o ganeuon gwerin Cymreig.
Y mae "Fantasia on Welsh Nursery Tunes" yn waith hyfryd iawn, ac yn rhagori'n amlwg ar "Hen Walia." Y mae'n loyw a melodaidd, y sgorio'n wreiddiol ac effeithiol, a gwelir ynddo fwy o sicrwydd wrth drafod y gerddorfa. Hwn yw ei gwaith mwyaf poblogaidd, ac y mae'n ychwanegiad pwysig a pharhaol at swm ein cerddoriaeth gerddorfaol. Darlledwyd ef lawer gwaith; gan Gerddorfa Symffoni'r B.B.C., dan arweiniad Syr Adrian Boult; Cerddorfa'r B.B.C., Adran B (deirgwaith), Cerddorfa'r B.B.C. yn y Gogledd, a Cherddorfa Sgotaidd y B.B.C.
Ysgrifennwyd "Rhiannon," chwedl i gerddorfa, ar ffurf cyfres. Rhoed comisiwn i Grace Williams i'w hysgrifennu gan y B.B.C. yn 1939, a pherfformiwyd hi gyntaf yn yr hydref y flwyddyn honno, a'i hailberfformio ymhen dwy flynedd. Yna caed "Sinffonia Concertante" i biano a cherddorfa. Y mae hwn yn waith uchelgeisiol, a'r rhan i'r unawdydd yn anodd ei chanu. Perfformiwyd ef gyntaf gan Gerddorfa'r B.B.C. yn 1943, a Margaret Good yn canu'r piano. Yn ddiweddar, gorffennodd Grace Williams waith mawr arall i gerddorfa, "Owen Glendower." Disgrifia hi ei hun ef fel "Argraffiadau Symffonig." Y mae iddo bedwar symudiad. Ysbrydolwyd ef gan yr olygfa rhwng Glyndŵr a Hotspur yn nrama Shakespeare, "Henry the Fourth," rhan I. Ni pherfformiwyd y gwaith hwn eto.
Rhaid ychwanegu at y rhestr uchod ddau waith i gerddorfa linyn-"Élegy" a ysgrifennwyd cyn y rhyfel presennol, a set o ddarnau a orffennwyd yn ddiweddar, ac a elwir "Sea Sketches." Er mai gweithiau i gerddorfa yw corff ei gwaith, ysgrifennodd Grace Williams amryw ddarnau lleisiol, megis "Two Psalms for Soprano Solo and Orchestra" (a ysgrifennwyd pan oedd hi'n fyfyriwr yn y R.C.M.); "The Song of Mary,"