ymysg pethau eraill, cyfansoddodd "Concert Rondo," a berfformiwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd (1938) a "Suite for Strings" ar alawon Cymreig. Hefyd gwnaeth drefniadau hyfryd o alawon gwerin Cymreig i lais a phiano.
Canu'r fiola yng Ngherddorfa Symffoni'r B.B.C. y mae Kenneth Harding. Cyfansoddodd ddwy gathl symffonig, "Sohrab and Rustum" a "Phaeton" a choncerto dwbl i ffidil, sielo a cherddorfa. Darlledwyd y ddau waith olaf a nodwyd. Ganed Heber Evans yn Nhreherbert, ond yn Lloegr y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes. Enillodd lawer gwaith am gyfansoddi yn yr Eisteddfod Genedlaethol, a'r enwocaf o'r cyfansoddiadau hyn yw "A Suite for Orchestra," wedi ei sylfaenu ar alawon Cymreig.
Fel Heber Evans, astudiodd Franklin Sparks gerddoriaeth yng Ngholeg Caerdydd, ac enillodd yntau am gyfansoddi drocon yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Y pwysicaf o'i weithiau yw'r gathl symffonig "Branwen," a ddarlledwyd yn 1944.
Cyn gadael y bennod hon dylid crybwyll Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru, a sefydlwyd yn 1908. Y mae'r gymdeithas hon yn ddyledus iawn i Olygydd ei Chylchgrawn, sef y Dr. J. Lloyd Williams, am ei hysbrydoli a'i gwneuthur yn llwyddiant. Trwyddi hi fe adferwyd nifer mawr o alawon, sydd wedi eu cyhoeddi yn ystod y chwarter canrif diwethaf. Oni bai am weithgarwch y Gymdeithas buasai'r rhain yn sicr wedi eu colli ers talm. Y mae llawer o'n cyfansoddwyr ni heddiw wedi defnyddio amryw o'r alawon, a'u trefnu i leisiau a cherddorfa. Credaf y buasai cyfansoddwyr yn cael cryn ysbrydiaeth ohonynt, pe rhoent fwy o amser i'w hastudio. Haedda'r Gymdeithas Alawon Gwerin gefnogaeth frwd pob gwir gerddor Cymreig, ac fe ddylai ddylanwadu'n gryf ar gerddoriaeth Cymru yn y dyfodol.