Tudalen:Cerddoriaeth yng Nghymru (Cyfres Pobun).djvu/71

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD X

RHAGOLYGON

Y MAE'r rhyfel diweddar wedi newid ein hagwedd tuag at fywyd a chelfyddyd, a disgwylir y bydd cerddoriaeth, a'r celfyddydau eraill, yn dyfod yn rhan bwysig yn ein bywydau ar ôl y rhyfel. Yn ystod blynyddoedd y rhyfel, gwnaethpwyd yn eithaf clir pa mor bwysig oedd cerddoriaeth fel celfyddyd, ac fel moddion i godi calon y genedl, ond fe ddylai cerddoriaeth olygu mwy inni nag adloniant difyr yn unig. Geill fod yn foddion nerthol i anfon neges o'n gwlad ni i'r gweddill o'r byd, a dylid cynllunio'n ddoeth i ddatblygu. cerddoriaeth Cymru os ydym am gyfrannu unrhyw beth o werth i gerddoriaeth y byd yn y dyfodol.

Ond wrth gynllunio, dylem ochel camgymeriadau'r gorffennol. Ein gwendid mwyaf oedd methu datblygu cerddoriaeth offerynnol, ac yn arbennig gerddoriaeth y gerddorfa. Y gwendid hwn oedd y rhwystr pennaf i'n cynnydd fel cenedl gerddorol yn ystod yr hanner can mlynedd diwethaf. Tra oedd cenhedloedd eraill yn cynyddu ym mhob cangen o'r gelfyddyd, yr oeddem ni'n rhoddi gormod o sylw i gerddoriaeth gorawl, gan esgeuluso cerddoriaeth offerynnol. Canlyniad hyn oedd diwylliant cerddorol unochrog. Fel y gwelsom eisoes, rhoes y Gymanfa, ac i raddau llai, yr Eisteddfod, eu pwys ar ganu corawl, ac ni welsom bosibiliadau cerddoriaeth symffonig'tan y blynyddoedd diwethaf yma. Yn y dyddiau. goleuedig hyn, ni eill cenedl sy'n ymlwybro trwy gymorth canu corawl yn unig ennill lle anrhydeddus ymysg cenhedloedd cerddorol y byd.

Ein hangen cyntaf, felly, yw Cerddorfa Genedlaethol ar raddfa symffonig. Gallai cerddorfa o'r math hwn ddatrys y rhan fwyaf o'n hanawsterau. Buasai'n cefnogi cyfansodd- wyr ieuainc Cymru sydd yn awr yn ysgrifennu cerddoriaeth ar gyfer cerddorfa, trwy fynych ganu eu gwaith; gallai ymuno â chymdeithasau corawl er mwyn canu gweithiau corawl mawr ; a buasai'n rhoddi cyfle i'r Cymry glywed perfformiadau "byw" o'r campweithiau mawr ar gyfer cerddorfa. Wrth reswm, buasai cerddorfa barhaol, digon mawr i