ganu gweithiau symffonig, yn costio llawer o arian bob blwyddyn, ond credaf y gellid gorchfygu'r anhawster hwnnw petai awdurdodau pob tref a sir yng Nghymru yn rhoddi cynhorthwy ariannol. Nid oes cymaint o broblem gyda'r corau, oherwydd y mae digonedd o leisiau i'w cael, ac nid yw'n rhaid creu corau fel y mae'n rhaid creu cerddorfa. Gwahaniaeth arall yw bod yn rhaid wrth gerddorion proffesedig i wneuthur cerddorfa, ond gwaith gwirfoddol yw canu mewn côr, a chryn amrywiaeth yn eu safonau a'u cyraeddiadau. Dylid ystyried yn ofalus iawn gyflwr ein canu corawl, ac arbrofi â dulliau a syniadau newydd er mwyn codi'r safon. Y mae angen gwella techneg a thonyddiaeth corau Cymreig, a dylai fod ganddynt lawer iawn mwy o ddarnau y gallent eu canu. Y cwbl sydd ganddynt fel rheol yw ychydig ranganau, ac ambell gorawd o'r "Messiah" ac ambell oratorio gyffelyb. Y rheswm am fod cyn lleied o ddysgu darnau newydd yw na eill aelodau'r corau ddarllen cerddoriaeth, a gorfod iddynt ddysgu eu rhannau wrth y glust.
Ond cyn codi safon canu corawl, rhaid inni yn gyntaf godi safon arwain. Y mae digonedd o ddefnydd corau yng Nghymru, ond gwaetha'r modd fe'i camddefnyddir oherwydd anallu'r arweinwyr. Ni eill llawer ohonynt wneuthur dim mwy na churo amser, ac anaml y gallant arwain y dernyn mwyaf syml heb gopi. Dewisir arweinydd yn aml oherwydd ei sêl, nid oherwydd ei gymwysterau cerddorol. Ac aelodau'r côr, hwythau, anfynych y dysgant eu rhannau ar gof, ond yn hytrach cadw eu llygaid ar y copi, heb roddi odid ddim sylw i'r arweinydd, ac ef wedi'r cwbl a ddylai fod yn ganolbwynt yr holl berfformiad. Nid bob amser y sylweddolir bod arwain côr yn gofyn mwy o ymroddiad nag arwain cerddorfa o gerddorion proffesedig. Y mae mwy o gyfrifoldeb ar arweinydd côr, oherwydd gofyn ei gantorion am fwy o hyfforddiant ac am arweiniad sicrach nag aelodau cerddorfa, canys y mae'r rheini fel rheol wedi eu disgyblu'n well ac yn fwy parod eu hymateb i ofynion yr arweinydd. Buaswn i'n argymell sefydlu ysgol i hyfforddi arweinwyr yng Nghymru, canys rhaid gwella safon yr arwain cyn coethi gwaith y corau.
Ni ddeuwn byth yn genedl o ddiwylliant cerddorol oni roddir i ddarllen cerddoriaeth fwy o le yn ein cyfundrefn addysg. Awgrymaf roddi mwy o amser yn yr ysgolion i ddysgu hyn, a gwneuthur cerddoriaeth yn bwnc gorfodol yn