Tudalen:Cerddoriaeth yng Nghymru (Cyfres Pobun).djvu/73

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y cyrsiau addysg, a hefyd gofalu yn ddieithriad na ddysgir cerddoriaeth i blant ond gan athro cymwys i'r gwaith. Pe gwneid hyn byddai'r plentyn yn cael ei gychwyn yn briodol, a hyd yn oed pe na bai ganddo lais cyfaddas i fod yn aelod o gôr, buasai wedi derbyn cefndir cerddorol a barai iddo garu cerddoriaeth am y gweddill o'i oes.

Ysgrifennwyd llawer o bryd i'w gilydd am ddiwygio'r Eisteddfod Genedlaethol. Carwn roddi teyrnged i'r hen sefydliad rhagorol hwn, oherwydd er ei holl wendidau, bu'n gyfrwng i gefnogi cerddorion Cymru trwy'r blynyddoedd. Fel y gwelsom yn y llyfr hwn eisoes, bu pob cerddor Cymreig o bwys mewn cyswllt â'r Eisteddfod rywbryd neu'i gilydd yn ystod ei oes, a manteisiodd ar hynny. Yn fy marn i, yr ydym yn tueddu i ddisgwyl gormod gan yr Eisteddfod, ac anghofio (a dyfynnu Joseph Bennett) "mai gwobrwyo diwylliant cerddorol y mae'r Eisteddfod, nid darparu ar ei gyfer, ac eithrio efallai ar ambell achlysur prin." Mewn geiriau eraill, ni eill yr Eisteddfod ond bod yn ddrych o ddiwylliant cerdd- orol a llenyddol y genedl ar amser arbennig. Os bydd bly- nyddoedd llwm, a chanu corawl ar drai, fe welir hynny yng nghystadlaethau'r Eisteddfod Genedlaethol megis y bu yn nechrau'r ganrif hon.

Gallai'r Eisteddfod fod yn fwy o rym o lawer ym mywyd cerddorol Cymru pe rhoddai fwy o gefnogaeth i gerddorion Cymreig. Gellid gwneuthur hynny trwy ddewis mwy o'u gwaith hwy fel darnau cystadleuol, a chynnwys mwy o'u cyfansoddiadau yn rhaglenni cyngherddau'r Eisteddfod. Ni fynnwn awgrymu y dylai'r holl ddarnau cystadleuol fod yn waith Cymry; ond pe dewisai'r pwyllgorau fwy o weithiau Cymry, yr wyf yn siŵr y buasai i'r cyfansoddwyr hwythau wneuthur eu rhan a chynhyrchu mwy.

Diau y gwelid diwygiad cerddorol yng Nghymru pe bai gennym fwy o gydymdeimlad â'n cerddoriaeth ein hunain. Hyd yn hyn, ychydig iawn o ddiddordeb a gymerth y genedl yng ngweithiau ei chyfansoddwyr hi ei hun, a chwynant hwy, nid heb reswm, nad oes odid neb yn malio dim am yr hyn a ysgrifennant. Cymharol fychan yw cynnyrch cerddorol Cymru wrth gynnyrch cenhedloedd eraill, ond y mae'n syn cyn lleied o gerddorion Cymreig a ŵyr am y pethau sydd gennym. Anfynych iawn y ceir arweinwyr corau ac unawdwyr yn gynefin â darnau gan gyfansoddwyr Cymreig. Gwn trwy