brofiad mor anodd yw darbwyllo arweinwyr corau i baratoi gweithiau Cymreig, a chael gan gantorion ddysgu caneuon Cymreig. Oni roddir cynnig ar y gweithiau hyn, a'u canu, pa fodd y gallwn farnu eu gwerth? Dylid atgyfodi llawer ohonynt, a rhoddi cyfle iddynt o ddifrif cyn eu dedfrydu'n derfynol.
Profir pa mor fychan yw'r diddordeb yng ngherddoriaeth Cymru gan y gefnogacth dila a roed i'r unig gylchgrawn cerddorol a gyhoeddwyd yng Nghymru yn ystod yr hanner can mlynedd diwethaf, sef Y Cerddor. Efallai y buasai sefydlu cylchgrawn cerddorol byw yn cynrychioli barn gerddorol y dydd yng Nghymru, ac yn ymroi i gefnogi cerddoriaeth Gymreig, yn symbyliad gwerthfawr i'n cerddorion, ac yn gymorth i godi diddordeb y genedl yn eu gwaith. I ddirwyn i ben, ein prif anghenion, yn fy marn i, yw: (1) sefydlu Cerddorfa Genedlaethol i Gymru; (2) gwelliant cyffredinol yn safon ein canu corawl; (3) cefnogi cyfansoddwyr Cymreig trwy berfformio'u gweithiau yn amlach; (4) hyfforddiant mwy trwyadl mewn darllen cerddoriaeth; (5) mwy o ddiddordeb byw yng ngwaith y sawl sy'n cyfansoddi ac yn perfformio cerddoriaeth trwy'r wlad benbwygilydd. Buasai'n gynhorthwy i gyrraedd hyn pe cychwynnid cylchgrawn cerddorol da.
Os gellir datrys y problemau hyn yn foddhaol, gellir rhagweled dyfodol llewyrchus i gerddoriaeth yng Nghymru.