Tudalen:Ceris y Pwll.pdf/104

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a llawer o fyddinoedd—llengoedd o honynt—i geisio rhwystro Duw yn ei amcanion."

"Mae hynny yn ddigon eglur," ebai Ceris, "oblegid beth yw y cyfeiriadau mynych at y drygau ysbrydol, ysbrydion aflan, dewiniaid, a phethau ofnadwy eraill, os nad oes yna alluoedd drwg heblaw dynion ar waith o'n hamgylch yn feunyddiol."

"Gresyn fod lle i feddwl, ac i gredu, fod dynion yn meddu rheswm, yn syrthio mor ddwfn i lygredigaeth moesol fel ag i ymwerthu i gaethiwed a bod yn offerynnau yn llaw yr un drwg i'w dinystr, a hynny i foddio nwydau drwg, ac i ymffrostio mewn gallu melltigedig, megis swynyddiaeth, consuriaeth, dewiniaeth, ac aflonyddu y meirw."

"A 'wyt ti yn dysgu," ebai Ceris, "fod yn bosibl i un fel Bera fy symud i oddiyma i 'wlad Brython Llanrhos, ac oddiyno yma, yn ôl ei mympwy?"

"Os wyt ti yn gwybod cyfrinion dy hanes dy hun a'th symudiadau diweddar y rhai sy'n dywyll i ni, yna yr wyt yn ymuno ym mradwriaeth Bera; ond os na wyddost, y mae dy anwybodaeth yn ateb dy gwestiwn ac yn profi fod rhyw allu