Tudalen:Ceris y Pwll.pdf/112

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

XXI. DIWEDD A DECHREU

YN y cyfnod pwysig y cyfeirir ato bu adfywiad crefyddol nodedig iawn ym Mon, yn yr hwn yr ymunwyd' gan grefyddwyr enwog o'r ddau bobl oedd eto yn parhau ar wahân yn eu harferion crefyddol oblegid y rhwystr achosid gan wahaniaeth tafodieithoedd y trigolion.

Yr oedd yr hen adfywiad a briodolir yn bennaf gan rai haneswyr i Brychan Brycheiniog, fel y sylwyd o'r blaen, wedi achosi sefydlu ciliau, neu gysegroedd bychan ynglŷn ag etifeddiaeth pob tylwyth yn yr ynys. Ac heblaw y ciliau Goidelig, yr oedd cysegroedd Brythonig a elwid Llannau, neu fannau neillduedig i addoli. Yn yr adfywiad dan sylw, adnewyddwyd y ciliau Goidelig trwy gyfnewid yr hen giliau a blethasid o goed, ac a ddwbiasid â chlai, am adeiladau mwy arosol, ond syml a diaddurn, petryal neu ysgwâr, heb fod yn annhebyg i rai ysguboriau a welir eto.

Oddiwrth enwau llawer o'r ciliau Goidelig, a'r llannau Brythonig, cesglir fod y gwragedd crefyddol, fel arfer, yn