Tudalen:Ceris y Pwll.pdf/13

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mae niwl yn gorchuddio y dyffrynnoedd, sef y gaenen isaf o'r hen boblogaeth; daw y parthau uwch yn fwy amlwg, ond hynod dywyll yr hud a'r lledrith sy'n gordoi pob man; yn y parthau uchaf y mae'r awyrgylch yn lled glir. Mae'r disgrifiad, feallai, yn gofyn eglurhad. Wrth y parthau isaf y golygir y genedl Goidelig: defnyddia y Brython arddull alegoraidd neu fabinogaidd wrth ddisgrifio; mae y Rhufeinddyn yn fwy eglur gyda'i hanes, oblegid nid yw efe yn gwisgo gwybodaeth â damhegion.

Nid oes gennym ni hanes Goidelig, namyn manion aneglur a adawyd ar ôl gan y Brython mewn cofnodau mabinogaidd ansicr yn eu cynhwysiad oblegid ei duedd i guddio yr hyn oedd anffafriol i'w ddysg ef, ac i ddefnyddio pob peth oedd ffafriol i'w olygiadau ef, o ba ffynhonnell bynnag y tynnai wybodaeth. Wrth gyfeirio at Brydain Rufeinig yr ydym ar dir sicrach. Yr unig gyfeiriad boreol sicr a phwysig a gawn ni at Fon yn yr hanes Rhufeinig yw yr hyn ddisgrifir fel Goresgyniad Mon yn y ganrif gyntaf gan Suetonius Paulinus, pryd y derbyniodd y Derwyddon, meddir, ergyd farwol a agorodd ddrysau Gogledd Cymru i drafnidiaeth