Tudalen:Ceris y Pwll.pdf/16

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

II. BRAD CASWALLON

GADAWODD Ceris ei enw ar fôr-gilfach y Pwll, is law i'w hen breswylfod a elwid Llwyn y Moel, ond yn awr sydd fwy adnabyddus dan yr enw Plas Newydd.

Moel oedd gaethwas a gydnabyddai un arall fel ei arglwydd, neu ei bennaeth; a gwneid hynny yn amlwg trwy i'r gwas gael ei eillio. Ond yn achos yr arwr presennol, nid oedd efe Foel mewn gwirionedd, oblegid gwrthodai efe fel Goidel rhydd ymostwng i un Brython goresgynnol, a heriai bob ymosodwr ar ei hawliau i'w ddifeddiannu o'i etifeddiaeth. Yr oedd ei Lech a elwid Pwll Ceris yn ymyl y man mwyaf peryglus i'w fordwyo.

Ar yr adeg y dechreua y stori yr oedd Mon yn dra chynhyrfus oherwydd bradwriaeth Caswallon ap Bran tuag at Garadog ei frawd, yr hwn oedd gyfrannog ag ef yn llywodraeth Mon yn absenoldeb Bran ap Bile yn y Llys Gwyddelig. Yr oedd Caradog yn llywodraethu y rhan orllewinol o Fon, tra y cymerid gofal o'r