Tudalen:Ceris y Pwll.pdf/32

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

VI. PENBLETH YR ESGOB

NID oes angen am adroddiad yma o'r ymddiddan fu rhwng yr Esgob a Cheris, oblegid ceir eglurhad wrth i ni ddisgrifio yr hyn ddilynodd eu hymgynghoriad. Aeth Ceris ymlaen gyda'i ddarpariadau gyda mwy o ddifrifoldeb a sêl nag o'r blaen, ac aeth yr Esgob Moelmud tua Llwyn Onn gan benderfynu ar unwaith fyned i Gil yr Esgob Dyfnan, lle yr hyderai gael mwy o hysbysrwydd ynghylch symudiadau cyflym Caswallon, yr hwn ni adawodd amser i amryw o benaethiaid yr Ynys addfedu eu penderfyniadau eu hunain, ond syrthio bron yn ddiarwybod iddynt eu hunain i ddilyn cynlluniau unbenaethol y trawsfeddiannwr.

Hysbyswyd Moelmud yn yr holl gyfrinion gan Ddyfnan, yr hwn fuasai ar ymweliad â Chyfarwydd yn ei Lech. Yr oedd y Sarff—fel y disgrifid y pennaeth cyfrwys hwnnw—wedi ei ddal yn ei hen gyfrwystra gan un mwy cyfrwys nag ef ei hun; neu yr oedd yn gweled mai wrth