Tudalen:Ceris y Pwll.pdf/60

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cymysgu ieithoedd a chenhedloedd mewn gwahanol wledydd a chyfandiroedd. Cyfeiriwyd fel hyn at ddigwyddiadau mawrion sydd yn creu yn barhaus ryw ddarpariad i ddwyn oddiamgylch ryw berffeithrwydd cynyddol, os oes peth felly yn bod, annealladwy yn awr ond yng ngoleuni cannwyll fechan sydd yn taflu goleuni i'r deall trwy resymeg cyfatebiaeth. Mae y nôd anfeidrol yn annirnadwy i ni. Nid ydym yn ymwybodol o ddim ond ein bod yn symud.

Cylchoedd bychain oedd y rhai y troai Dona ac Iestyn ynddynt, ond crwn yw y cylch faint bynnag fyddo'i fesur. Ac mor sicr ag mai deddf sefydlog, yr hon na allwn ni ei newid, sydd yn ffurfio y cylchoedd, mor sicr a hynny yw fod y trefniant yn llaw Trefnydd Doeth a Hollalluog. Nid cwestiynau cyffelyb i'r rhai hyn oedd yn cynhyrfu ymchwiliad ym meddyliau y ddau ieuanc ar hyn o bryd. Yr oedd y ddau yn newyddian yn y byd yr agorwyd ei ddrws iddynt mor ddamweiniol gan yr amgylchiadau oedd yn cynhyrfu Môn. Y peth mawr yr hiraethent am dano oedd y sicrwydd i'w sefydlu yn eu cylch. Ond er gwrando llawer, a chael eu swyno gan furmuron amrywiol eto yr oedd llawer