Tudalen:Ceris y Pwll.pdf/78

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i ymgodymu â gallu oedd mor hynod yn y medr o gyfaddasu ei hun i bob amgylchiad, ac mor lwyddiannus yn eu hymdrechion. Yr oedd y tawl-fwrdd (chess-board) yn dangos deheurwydd gyda'u chwareu goresgyn gwledydd, ac yr oedd cu sefyllfaoedd ymhob man yn gyfryw fel na allai hyd yn oed llwythau dewraf yr Eryri symud ymhell o gadarnleoedd mwyaf nerthol y byd heb osod eu hunain yn y perygl o gael eu llethu.

Ond yr oedd un perygl bob amser yn ymferwi ac yn bwgwth rhedeg dros y terfynau. Cyfeirir yn awr at boblogaeth yr Eryri oedd yn graddol gynyddu tu fewn i'r muriau uchel naturiol oedd yn gwasgu llawer o deuluoedd i ychydig o le. Ac mewn gwlad fynyddig oedd yn dibynnu ar yr ychydig ddefaid mynyddig a gwartheg duon bychain fel eu prif gynhaliaeth, yr oedd y berthynas rhwng gwyr amgauedig y mynyddoedd a'u cymydogion a breswylient lechweddau breision y tu allan, yn aml yn cael ei roddi ar brawf fel yr oedd amynedd gwyr y parthau olaf a ddesgrifiwyd yn fynych yn methu dal pwys y brofedigaeth, nes torri allan mewn ymrysonau rhyngddynt ag ysbeilwyr oeddynt