Tudalen:Ceris y Pwll.pdf/79

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

un ai yn rhy chwannog i roi gwaith i'w dilynwyr, neu dan orfod i barotoi ymborth iddynt o dda rhai mwy ffortunus. Yr unig gynghreirwyr gafodd Bera i gytuno-i'w chynorthwyo yn ei hymgyrch beryglus oedd ychydig dylwythau a breswylient y parthau mwyaf noethlwm, a'r nentydd rhamantus a ddyfrheir gan afonydd gorwylltion tir Machno a Dolwyddelan. Wrth gwrs yr oedd yn rhaid cael cydsyniad, a chafwyd peth cydweithrediad hefyd, y penaethiaid a hawlient yr awdurdod i agor neu gau bylchau yr Eryri yn y cyfeiriad o'r hwn y bwriadai yr ysbeilwyr ymosod. Yr oedd ar y pryd dri phennaeth o'r nodwedd ddisgrifiwyd, y rhai addawsant gydsynio ynghynllun Bera. Prif fwriad y cydweithredwyr hynny oedd cymeryd esgus o ddilyn Bera yn ei hymgyrch yn erbyn Caswallon, er mwyn yr ysbail a obeithid ei chasglu gan yr ymosodwyr. Y tri arweinwyr Goidelig hynny oeddynt Serigi o Ddinas Emrys, Cidwm Mynyddfawr, a Sinnach Pen y Gwrhyd, ger Bwlch y Wyddfa.