Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/111

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

DROS FOEL Y DON.

’ROEDD damwain angeuol wedi digwydd ar fferm Ty Mawr; un o’r gweision wedi ei ddal yn yr injan falu, a’i anafu mor dost fel y bu farw cyn iddynt allu ei symud o’r lle. Dyn o’r enw John Hughes oedd, ac ni wyddai neb ddim o’i hanes cyn iddo ddod i’r ardal. Ymddangosai yn hollol amddifad o berthynasau. Ni fyddai un amser yn derbyn llythyr. Ni fyddai neb yn dod o unman i’w weled, nac yntau yn myned i unlle o’r ardal. Daeth at ddrws Ty Mawr un cynhaeaf ychydig flynyddau yn flaenorol gan ofyn gwaith. Yr oedd angen gweithwyr ar y fferm, a chymerwyd ef i fewn. Yr oedd yn weithiwr dygn a medrus, ac ni throwyd ef i ffwrdd ar ddiwedd y cynhaeaf.

Yr oedd geneth fechan gydag ef oddeutu pump oed, a chawsant lety gyda gwraig weddw o’r enw Betsan Jones yn un o’r bythynod oedd ar y ffordd fawr tu allan i lidiart Ty Mawr. Ac yno yr oedd cartref y ddau pan y cymerwyd un ymaith yn ddisymwth, gan adael y gwannaf yn unig a diamddiffyn.

Yr oedd gŵr Ty Mawr wedi dwyn y treuliau claddu, a buasai yn hoffi myned a’r eneth bach gydag ef gartref i’w chydfagu â’i blant ei hun, gan fod yn amlwg nad oedd ond tloty o’i blaen. Ond gwyddai na chaffai dderbyniad gan ei wraig. Dynes dal deneu oedd gwraig Ty Mawr, a golwg gwgus arni bob amser bron; ei llygaid glâs oer heb yr un wreichionen o dynerwch ynddynt, yn gwibio ol a blaen yn ddibaid fel yn chwilio am droseddwr i dderbyn ei gosb, a phan awgrymodd Robert Williams ei