Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/112

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddymuniad wrthi ynglyn â'r eneth amddifad, disgynnodd arno fel llew ar ei ysglyfaeth. Yr oedd yn parotoi y boreufwyd ar y pryd, ac yr oedd pob ysgogiad o’i heiddo yn cydgordio â'r geiriau sarrug ddylifai dros ei gwefusau. Curai ei chlocsiau yn y llawr cerrig tra yn myned yn ol a blaen rhwng y bwrdd a’r aelwyd. Curai y llwy ar ymyl y llestri wrth eu llenwi o’r crochan uwd uwch ben y tân, a dodai hwynt ar y bwrdd gyda’r fath egni nes yr oedd perygl iddynt fyned yn deilchion. “Dwad yma wir,” meddai. “Y dyn ’i hun! Tyda chi ddim yn meddwl fod ginon ni ddigon o waith i gael bwyd a dillad i’n plant yn hunan heb fynd i fagu plentyn estron, na wyr neb ar y ddaear o ble doth hi na’i thad? Faswn i’n meddwl ych bod chi wedi gneyd hen ddigon yn talu am gladdu. Fasa pob creadur a llygad yn ’i ben yn gadael i’r plwy ’i gladdu o, ond dyna fel y byddwch chi bob amsar, yn gneyd cam â’ch teulu ych hun er mwyn rhyw hen nialwch. A’r holl hwribwrli hefo’r cwêst hefyd. Fasa rhywun yn meddwl fod gini ddigon o waith heb orfod olchi’r lloria ar ol traed budron dwsin o ddynion diarth. Ddaw hi ddim yma, dyna ddigon i chi, a waeth un gair mwy na chant. Aed i’r wyrcws, mae yn ddifai lle iddi hi, yr hen fursan bach. Mae ’i gwell hi wedi bod yno ganwaith.”

Pallodd ei hanadl, a chyn iddi ail ddechreu, clywid swn traed ar y palmant cerrig tuallan i’r drws, a daeth y gweision i fewn at eu boreubryd, a’r ddau fachgen hynaf, oedd yn gweithio ar y tir, gyda hwynt. Cymerodd Robert Williams ei het oedd wrth ei ochr ar y fainc ac wedi rhoddi rhyw gyfarwyddiadau i'r gweision, aeth allan. Yr oedd y pedwar bachgen ieu-