Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/113

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

angaf yn rhedeg naill ar ol y llall o amgylch y buarth, ac yn defnyddio eu lleisiau hyd eithaf eu gallu, tra y cynorthwyai y ddau gi i wneyd y trwst yn fwy drwy gyfarth yn ddibaid.

Tel y cyrhaeddai y ffarmwr y llidiart yn arwain i'r caeau, clywai ei wraig yn gwaeddi o ddrws y ty,—

"Hei hogia, dowch i nol ych brecwast mewn dau funud neu mi fyddwch yn hwyr i'r ysgol. 'Dach chi'n clywed? “Rwan, Ifan gollwng Wil mewn munud, neu mi golcha i di.” A gwelai'r hogia yn gwneyd yn wyllt am ddrws y ty, y naill yn syrthio ar draws y llall fel y ceisiai pob un o’r pedwar fyned i fewn yn gyntaf. Deuai ochenaid dros ei wefusau fel y caeai y llidiart ar ei ol, ac yr oedd ei lygaid yn llawn tristwch, a’r wên arferol wedi cilio oddiar ei wyneb crwn rhadlon. Yr oedd y ffaith fod John Hughes wedi cyfarfod â’i ddiwedd tra yn ei wasanaeth yn pwyso gryn lawer ar ei feddwl, ac yn enwedig pan y cofiai am ei eneth bach a’i chyflwr amddifad. “Margiad bach” arferai ei thad ei galw, ac yr oedd yr enw yn un anwyl a chynefin i wr y Ty Mawr flynyddau yn ol. Yr oedd yn anwyl eto, ond gydag anwyldeb gwahanol, yr anwyldeb hwnnw fydd gennym at ryw drysor wedi ei golli. Yr oedd yntau wedi colli ei drysor. Gorweddai Margiad bach Ty Mawr yn y fynwent, a charreg las wrth ei phen. Dywedai yr ysgrifen arni ei bod wedi marw yn wyth oed, ac ar ddiwedd y cofnodiad yr oedd y geiriau,—“Canys eiddo y cyfryw rai yw teyrnas nefoedd.”

Pan dorrwyd y bedd bychan hwnnw dywedai rhai siaradus yr ardal fod yn dda nad oedd gan Margiad Williams Ty Mawr yr un eneth