Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/116

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yr oedd y gair “wyrcws” yn ei gyrru fel fflangell. Y fath ddarlun ddeuai o’i blaen ynglyn ag ef! Yr oedd unwaith wedi gweled cerbyd yn llawn o enethod bychain yn myned heibio’r bwthyn am ddiwrnod o ddifyrrwch i rywle. Yr oedd gwisg y tloty am danynt, a’u gwallt wedi ei dorri’n gwta. Methai Margiad bach a dyfalu eu hanes, a mynnodd wybod gan rywun. O’r eglurhad hwnnw yr oedd wedi ffurfio, gyda dychymyg byw afresymol plentyn, syniad rhyfedd ac ofnadwy am y lle hwnnw a’r modd y byddai genethod bach yn cael eu trin yno. Ymhlith y pethau yr oedd yn wybod ddigwyddai iddi pe dalient ac yr aent a hi yno, oedd y torrid ei gwallt, y cudynau fyddai ei thad yn droi am ei fysedd; ac ni chawsai wisgo ei chlog a’i chap glâs. Yr oedd hynny’n eithaf sicr. Yr oedd yn fwy na thebyg y digwyddai pethau gwaeth hyd yn oed na hynny iddi, a phrysurai’r meddwl ei chamrau.

Wedi myned ychydig o ffordd goddiweddwyd hi gan fechgyn Ty Mawr, ac arafodd ei cherddediad ychydig er mwyn iddynt fyned heibio iddi. Bechgyn Ty Mawr oedd dychryn ei bywyd. Yr oeddynt mor fawr a chryf, a phan afaelent ynddi byddai eu bysedd fel haearn. Byddai arni eu harswyd bob amser, ac nid elai yn agos i’r lle os na fyddai ei thad yn ymyl. Ond yr oedd un o honynt yn wahanol i’r lleill ym mhob ystyr. Yr oedd yn llai ac yn eiddilach ei gorlif, ac yr oedd llygaid tyner ei dad ganddo. Gwyddai Margiad bach y gwahaniaeth yn dda. Ni fyddai Wil byth yn ei rhwystro ar y ffordd wrth fyned i’r ysgol fel yr hoffai y lleill wneyd. Ni byddai yn ei phinsio fel y gwnai y tri arall pan y llwyddent i gael gafael ynddi. Fel yr elent heibio iddi y boreu hwnnw