Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/117

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

safai a’i chefn ar y gwrych a’i chalon yn ei gwddf rhag ofn y buasent yn cymeryd yn eu pennau i ymyrryd â hi, a dod o hyd i’r ddoli a’r darlun oedd yn ddwyn mor ofalus o dan ei chlog. Ond yr oedd ganddynt rywbeth pwysicach mewn golwg y boreu hwnnw na blino geneth bach, ac aethant heibio fel corwynt, gan udganu a’u llais fel arfer, a chuddiodd troad y ffordd hwynt o’i golwg mewn eiliad. Ond ni chanlynodd Wil y tri arall yn hir. Trodd yn ei ol a daeth i’w chyfarfod ar hyd y ffordd, a meddai pan wrth ei hymyl,—

“Brysia neu mi fyddwn yn hwyr.”

“Tydw i ddim yn dwad i'r ysgol heddyw, Wil.”

“Lle ti’n mynd ’ta?”

Edrychai y plentyn arno am ennyd tra y petrusai a fyddai’n ddoeth dyweyd ei helynt wrth Wil.

“Dudwch wrtha i, Margiad bach,” crefai yr olaf.

“Nei di ddim deyd wrth neb os gna i ddeyd wrtha ti?”

“Na ’na i.”

“Wir-yr?”

“Wir-yr.”

“Mae nhw am ’y ngyrru i i’r wrcws.” A daeth yr edrychiad dychrynedig yn amlycach i’w llygaid, fel edrychiad deryn bach yn y ddalfa, a throdd ei phen i edrych oedd y “nhw” oedd am ei dal yn y golwg.

Nid oedd dychymyg Wil erioed wedi troi o gwmpas y gair “wyrcws,” a disgynnai ar ei glust yn hollol ddiystyr. Ni allai ddyfalu pa fath le oedd, ond deallai wrth edrychiad Margiad bach ei fod yn lle anymunol, lle fel y jêl