Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/118

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn sicr. Ni allai dychymyg Wil gyrraedd ymhellach, a meddai,—

“Am be mae nhw am fynd a chdi yno?”

“Am ddim. Am fod ’y nhad wedi marw, a ’toes ’na ddim lle i mi yn nhy Betsan Jones, medda hi.”

“O mi gei ddwad i ty ni.”

“Na. Cha i ddim dwad gin dy fam.”

Syrthiodd gwynepryd Wil, ond gloewodd drachefn yn sydyn a meddai,—“Mi gei ddwad gin ’y nhad.” Ond ysgydwai Margiad bach ei phen. Yr oedd yn graffach na Wil, ac yr oedd wedi cael llawer prawf mai nid yr hyn fyddai gŵr Ty Mawr yn ewyllysio fyddai’n dod i ben yno.

“Wel, lle ti’n mynd ’ta?” gofynnai Wil, wrth weled nad oedd ei gynhygiad yn cael derbyniad parod. Daeth yr eneth bach a'i genau at ei glust a sisialodd,—

“Cofia di beidio deyd wrth neb. ’Dw i ’n mynd i dŷ nain. Cofia di beidio deyd neu mi ddôn ar f’ ol i, i fynd a fi i’r wyrcws.”

Edrychai Wil arni’n syn, a meddai,—

“I dŷ nain!”

“Hist!" a gostyngodd ei llais.

“Lle mae ty nain?"

“Yn sir Fon, a rhaid i mi fynd.”

Carasai Wil holi ychwaneg arni, ond yr oedd ei frodyr wedi ei golli, ac yn llefain arno ddod yn ei flaen. Crefodd Margiad bach arno fyned, rhag ofn iddynt ddod yn ol. Ei geiriau diweddaf wrtho oeddynt,—“Cofia beidio deyd wrth neb.”

Yr oedd yn methu deall beth oedd wedi digwydd i'w thad. Yr oedd wedi ei gadael, ond i be? Nid oedd erioed wedi ei gadael am noson o'r blaen. Yr oedd y diwrnod y gwe-