Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/119

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

odd ef ddiweddaf, wythnos yn ol, ymhell ymhell yn y gorffennol yn rhywle. Beth oedd “marw” tybed? Yr oedd babi bach y ty nesaf wedi “marw” ychydig wythnosau yn ol, ac yr oedd wedi myned gydag un o’i chwiorydd—ei chyfeilles bach yn yr ysgol—i’w weled yn ei arch fechan. Meddyliai ei fod yn edrych fel y byddai pan yn cysgu yn ei gryd, a buasai yn caru edrych arno o hyd, yr oedd mor dlws. Yr oeddynt wedi myned ag ef i ffwrdd mhen diwrnod neu ddau, ac nid oedd wedi ei weled wedyn. Dywedai pawb fod ei thad wedi “marw,” ac yr oeddynt wedi myned ag yntau i ffwrdd i’r fynwent, ac ofnai na welai mohono byth mwy. Yr oedd wedi gweled yr arch oedd gymaint yn fwy nag arch y babi bach, er na fedrai gael gan neb godi’r caead iddi gael golwg ar y gwyneb yr oedd mor gynefin ag ef. Yr oedd wedi bod yn y fynwent hefyd, y diwrnod yr aethant ag ef yno, pan oedd Betsan Jones mor flin wrthi am fynnu ei chlog lâs i fyned.

Mor falch oedd ei thad a hithau o’r glog lâs. Nid oedd gan yr un eneth bach yn yr ardal un debyg iddi. Yr oedd y ddau wedi ei gweled mewn ffenestr un o fasnachdai Caernarfon pan oeddynt wedi myned gyda’u gilydd i ffair ben tymor, ac aethant i fewn i’w phwrcasu. Yr oedd ei phris yn dipyn o syndod i John Hughes, ond ni fynnai siomi Margiad bach, a thalodd am dani o’i gyflog prin. Yr oedd y dilledyn wedi bod yn destyn llawer araeth gan wraig Ty Mawr. Y fath wastraff ar arian! Ond nid oedd y ddau yn malio llawer yn yr hyn ddywedai Margiad Williams, a gwisgai Margiad. bach y glôg oedd ei thad a hithau yn edmygu gymaint. Yr oedd y diwrnod y prynwyd hi yn un i’w gofio yn hir. Aeth ei thad a hi i’r