Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/120

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cei, a dangosodd iddi y tir yr ochr arall i’r afon lle yr oedd “ty nain.”

Hoff ystori Margiad bach er pan oedd yn cofio oedd hanes “ty nain” yn sir Fon, ac yr oedd wedi ei wrando ugeiniau o weithiau pan yn eistedd ar lin ei thad cyn myned i’w gwely. Yr oedd mor gyfarwydd â Brynteg a phe buasai wedi byw ei holl wyth mlynedd bywyd yno. Yr oedd yn adnabod ei furiau gwyngalchog a’r pren rhosynau’n dringo o amgylch y drws. Gwyddai am yr ardd o’i flaen lle y tyfai “hen wr a’r rhosyn mynydd,” a “botwm gŵr ifanc,” a lle yr oedd y fainc a’r cychod gwenyn yn rhes armi. Gwyddai am y berllan wrth ochr y ty, a’r coed afalau ac eirin, ac am yr afon lonydd wrth law lle y byddai ei thad yn nofio cwch bach pan yn hogyn. Yr oedd yn gynefin â chegin fawr y ty a’i distiau derw, y setl wrth ochr y tân, a’r cwpwrdd cornel lle cedwid y mêl fyddai y gwenyn yn gasglu o’r blodau. Ar ddiwedd yr hanes, gofynnai bob amser,- “Pryd cawn ni fynd yno, tada?” A'r ateb fyddai, “Mi awn ni yno ryw ddiwrnod, Margiad bach.”

Y boreu hwnnw, cyn codi o’i gwely, yr oedd wedi meddwl myned i weled y lle yr oedd ei thad yn gorwedd, ond yr oedd wedi ei brawychu gymaint wrth eiriau Betsan Jones, nes i bob meddwl suddo i’r un meddwl mawr o ffoi. A phan ddaeth hwnnw iddi cofiodd am Frynteg, a meddyliodd fod y “rhyw ddiwrnod” hwnnw fyddai ei thad yn son am dano wedi dod. Ac wrth gychwyn ar ei thaith nid oedd ganddi’r un amheuaeth na chyrhaeddai yr hafan. ddymunol “ty nain.”

Fel y cerddai ymlaen yng nghyfeiriad tref Caernarfon, cofiodd am ei bwriad y boreu, a