Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/121

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

meddyliai yr hoffai ddod yn ei hol gyda’i nain, ac y caent ef yn gorwedd fel babi bach y ty nesaf, yn dlws a llonydd, ac y caent fyned ag ef i Frynteg, a byddai iddo’n sicr ddeffroi yn y fan honno.

Cerddai mor gyflym ag y gallai, a daliai y ddoli a'r cerdyn yn dynn o dan ei mantell lâs. Mis Tachwedd oedd, ac yr oedd yn foreu oer, y wybren wedi ei gorchuddio â chymylau bygythiol, y gwrychoedd o bob tu’r ffordd yn noethion, a'r gwynt yn cwynfan yn brudd trwyddynt.

Wedi cyrraedd y dref ceisiodd ddod o hyd i’r ffordd at lan y môr, oherwydd y gwyddai y byddai raid iddi fyned dros y dwfr rywfodd i gyrraedd sir Fon. Nid oedd yn cofio yn iawn pa ffordd yr oedd wedi myned gyda’i thad, ond ar ol crwydro ar hyd heol neu ddwy cafodd ei hun yn y Maes, o dan gysgod muriau llwydion yr hen gastell, a daeth o’r diwedd i’r cei. Ceisiai ddyfalu pa un o’r cychod oedd yn myned i sir Fon. Yr oedd eu nifer mor liosog nes ei synnu. Cerddodd at Borth yr Aur, ac yno yr oedd twrr o fechgyn ysgol, rhai a'u pwysau ar y mur isel, a'r lleill yn eistedd arno, yn edrych i lawr i’r dwfr. Syllai Margiad bach arnynt yn amheus. Yr oedd yn ofni braidd gofyn iddynt ei chyfarwyddo at y cwch. Taflodd ei golwg drosodd at y tir yr ochr arall i’r afon. Yr oedd y llanw i lawr, a’r tywod yn codi’n felyn o’r tonnau brigwyn. Aeth yn agosach at y bechgyn, ac wedi petruso ychydig gofynnodd yn wylaidd y ffordd at y lle yr oedd y cwch i sir Fon yn cychwyn. Trôdd yr oll eu llygaid ar yr eneth fechan yn ei gwisg lâs, ac edrychent arni gyda chywreinrwydd, ac meddai un yn wawdus,-”Cwch! ’toes na ddim cwch yn mynd