Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/122

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i sir Fon y beth wirion. Stemar bach sy’n mynd, a mae hi’n siwr o fynd ar lawr heiddyw.” Syrthiodd gwynepryd Margiad bach wrth y geiriau gwawdus, ond daeth un arall o’r bechgyn at ei hymyl a meddai,—“Oes ginoch chi isio mynd i sir Fon? I lawr ffor’ acw mae'r stemar.” Ond cyn y gallai droi i fyned i’r cyfeiriad dangosai iddi gwaeddodd yr un oedd wedi ei hateb gyntaf,—“Mae tair ceiniog am fynd hefo’r stemar, a mi ddaliai i nad oes gini hi yr un ddimai.” Yr oedd yn hawdd gweled wrth wyneb Margiad bach fod ei ddyfaliad yn gywir. Daeth y dagrau i’w llygaid er ei gwaethaf, ac ni allai gadw ei gwefus rhag crynu. Wrth weled yr arwyddion yma llefai ei gelyn drachefn,—“Un iawn, ynte, yn meddwl cael mynd hefo'r stemar am ddim.” A chwardd. odd yr oll o’r bechgyn, ac eithrio yr un oedd wedi ceisio ei chyfarwyddo at y stemar. Edrychai hwnnw ar ei hol yn fyfyrgar fel yr elai drwy y porth a’i chalon bach bron ar dorri. Yr oedd heb ei “thada” ac wedi colli y gobaith o gyrraedd diogelwch rhag y wyrcws, a daeth yr arswyd ofnadwy arni drachefn yr aent a hi i’r lle hwnnw.

Nid oedd, fodd bynnag, wedi myned lawer o gamrau i fyny’r Stryd Fawr na chlywai rywun yn gwaeddi, “Hei hogan bach,” a phan drodd ei phen gwelai y bachgen oedd wedi bod yn dyner wrthi wrth ei hymyl. Edrychai arni yn siriol, a meddai,—“Os ewch chi i Lan y Foel mi fedrwch fynd i sir Fon hefo cwch y Borth, a ’toes dim ond dima am i blant fynd. Mae gini ddima, a mi cewch chi hi.” A thynnodd y ddimai, ei holl gyfoeth bydol, o’i boced o ganol nifer o fân daclau, a rhoddodd hi yn llaw Margiad bach. Caeodd ei bysedd arni,