Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/123

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ac edrychai i wyneb rhadlon y plentyn oedd yn gwenu arni, a chiliodd ei gofid tra y gwenai yn ol arno. “’Dach chi’n gwybod y ffordd i Lan y Foel?” gofynnai rhoddwr y ddimai iddi. Ysgydwai Margiad bach ei phen. “Mi ddo i i’ch danfon chi dipyn bach, mi oeddan ni’n byw yno stalwm, a mi fydda ni’n mynd i sir Fon yn y cwch o hyd. Braf oedd hi hefyd.”

Yr oedd y ddau erbyn hyn yn cerdded i gyfeiriad gorsaf y rheilffordd, ac wedi gadael honno darfyddodd y tai, a chafodd Margiad bach ei hun drachefn yn y wlad. Yr oedd ei byd wedi gloewi gryn lawer. Yr oedd y byd tuallan iddi hefyd wedi gloewi,—y cymylau duon wedi cilio, yr haul yn tywynnu er yn wannaidd. Canai robin goch yn y gwrych gerllaw, a deuai nodyn hir ac undonog yr asgell arian yn awr ac eilwaith, a gwelent ef yn gwibio yma ac acw, gwyn ei aden yn fflachio yn yr haul. Yr oedd y bachgen bach wedi dweyd wrthi beth oedd ei enw, pa le yr oedd yn byw yn nhref Caernarfon, a pha ddosbarth yr oedd ynddo yn yr ysgol, ac yn dechreu holi Margiad bach ar y cyfryw destynau pan glywid cloch yn canu tu ol iddynt yn rhywle, ac meddai yn frysiog,—“Dyna’r gloch gynta. Mi fydd i’n hwyr. Cerrwch yn ych blaen yn syth o hyd, a mi ddowch i Lan y Foel, a wedyn mynd i lawr yr allt, nid yr allt gynta’ ond yr un wedyn, at lan y môr.”

Galwai y cyfarwyddiadau hyn ar ei ol, tra y rhedai yng nghyfeiriad y dref, yn edrych dros ei ysgwydd ar Margiad bach wrth fyned. Rhywfodd wedi hynny nid oedd pethau mor obeithiol yng ngolwg y teithiwr bychan. Aeth yr haul o’r golwg hefyd. Cododd y gwynt, a chwythai’n oer i’w gwyneb. Troellai gudynau ei gwallt tu ol iddi, a chwibanai drwy y rhes o