Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/124

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

goed ynn oedd gydag un ochr i’r ffordd. Cyfrifai Margiad bach y bonion fel yr elai heibio iddynt. Yr oedd pymtheg ohonynt yn dal a syth, a chodau gwywedig eu hadau yn hongian yn brudd ar y brigau, ac yn suo yn yr awel.

Yr oedd yn brydnawn pan gyrhaeddodd Lan y Foel. Daeth o hyd i’r borth yn ddidrafferth. Yr oedd y cwch a’i hwyl goch i fyny wedi ei sicrhau wrth y cei isel. Ond nid oedd y cychwr i’w weled, ac eisteddodd Margiad bach ar garreg fawr gerllaw i’w ddisgwyl. Teimlai yn flinedig, ac yr oedd ei thraed yn ddolurus ar ol y daith. Yr oedd gefail gof yng ngolwg y llecyn, a gwelai oleu coch y tân yn fflachio drwy y drws agored. Meddyliai y buasai yn caru dal ei dwylaw ato i’w cynhesu, yr oeddynt mor oer. Toc gwelai nifer o blant yn dod o’r ysgol, ac yn sefyll i wylied tân y gof am ennyd. Yn anffodus syrthiodd llygaid un o honynt ar yr eneth fechan yn eistedd ar y garreg ar lan y môr. Dangosodd hi â’i fys i’r gweddill. Deffrowyd eu cywreinrwydd parthed yr “hogan” oedd yn eistedd mor unig a llonydd yn y fan honno, ac mewn eiliad yr oedd yr oll o’i hamgylch. Cododd ar ei thraed, ac ar y funud daeth pwff o wynt dros y dwfr a chododd gwrr y glôg lâs gan ddatguddio'r trysorau ddaliai mor dynn yn erbyn ei mynwes. Ni fuont yn ei meddiant yn hir wedyn. Cipiwyd hwy o’i dwylaw er ei gwaethaf, a gwelai gyda braw dri neu bedwar o’r bechgyn yn ymrafaelio am y ddoli, a’r gweddill yn llygadrythu ar y darlun, a bron a’i dynnu’n ddarnau rhyngddynt tra y llefent eu barn arno. “Llun i chariad hi!” “Yldi dillad digri sy gino fo.” “Un codog ynte.” Dyma rai o’r sylwadau ddisgynnai ar glust Margiad bach. Ac yn ben ar y cwbl