Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/125

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gwelai o’r diwedd y ddoli a’r darlun yn fflachio heibio ei llygaid ac yn disgyn i’r dwfr dulas wrth ochr y cei. Yn y cyfwng yma daeth y cychwr i’r lle. A phan welodd Margiad bach yn wylo, ac y deallodd beth oedd ei helynt, ceryddodd y plant yn llym, a neidiodd i’r cwch i geisio cyrraedd y ddoli. Ond yr oedd y llanw wedi ei dwyn yn rhy bell. Yr unig beth gafodd afael ynddo oedd y cerdyn, wedi meddalu yn barod gan y dwfr, a’r darlun wedi ei olchi i ffwrdd yn lân. Rhoddodd hwn i’r eneth bach, a phan ddeallodd fod arni eisieu myned drosodd cododd hi’n garedig dros ochr y cwch, a rhoddodd hi i eistedd ar y fainc. Yr oedd y plant wedi dianc i gyd erbyn hyn, yn ofni canlyniadau eu hymddygiad tuag ati.

Fel y gadawai y cwch y lan, eisteddai a’i llygaid ar y tir yr oedd trwyn y cwch iddo, a’r dagrau heb orffen sychu ar ei gruddiau. Yr oedd colli y ddoli a’r darlun yn brofedigaeth fawr. Daliai y cerdyn gwyn gwlyb o dan gysgod ei chlôg, yr unig ran oedd yn aros o’i thrysor pennaf. Yr oedd bron a thorri i wylo drachefn wrth feddwl am ei cholled, ond fel y siglwyd y ewch gan y tonnau a’r gwynt anghofiodd bob peth mewn ofn. Nid oedd erioed wedi bod mewn cwch o’r blaen, a deuai ei chalon i’w gwddf bob tro y cyrhaeddent frig ton ac y disgynnent i’r dyfnderoedd drachefn. Ni pharhaodd ei mordaith gyntaf yn hir, fodd bynnag, a daethant i’r ochr draw yn ddiogel. Pan yn cerdded i fyny cerrig llithrig y cei, teimlai Margiad bach fod ei threialon yn awr ar ben. Yr oedd yn sir Fon; ni fyddai yn hir cyn cael hyd i Frynteg, “ty nain.” Cerddai gyda’r bobl oedd wedi dwad hefo’r cwch i fyny’r ffordd, a gofynnodd i ryw wraig oedd yn myned ychydig