Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/126

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gamrau o’i blaen pa ffordd oedd myned i Frynteg. “Mi ’dw i’n myned heibio yno, a mi ’na i ddangos o i chi.” A cherddodd y ddwy am bellderoedd yn nhyb Margiad bach, yr hon oedd yn flinedig iawn erbyn hyn, ac yn dechreu teimlo yn newynog hefyd. Ceisiai y wraig ei holi o ba le yr oedd yn dod, ond ychydig ddywedai y plentyn wrthi. Ac o'r diwedd gadawodd iddi, gan feddwl ei bod yn eneth bach ryfedd iawn, a cheisiai ddyfalu beth oedd ei neges ym Mrynteg. Pan oedd gobaith Margiad bach bron a diffygio, daethant at lidiart yn arwain i fuarth tyddyn bychan ychydig o’r ffordd. Dywedodd y wraig wrthi ei bod wedi cyrraedd Brynteg, ac wedi agor y llidiart iddi aeth yn ei blaen i fyny’r ffordd. Cerddai y plentyn drwy y buarth at y drws, ac edrychai o’i chwmpas gan geisio rhai o'r pethau yr oedd mor gynefin a hwy. Ni welai ardd yn tebygu i'r un oedd ganddi ddarlun mor fyw o honi yn ei meddwl. Ni welai y berllan a’r coed afalau a’r eirin; a cherrig llwydion heb erioed eu gwyn galchu oedd muriau y ty. Nid ty nain oedd yn sicr, er mai Brynteg oedd ei enw. Safai y drws yn agored, a phan gurodd yn wylaidd daeth gwraig canol oed i’r golwg o’r gegin. Edrychai ar y plentyn yn ymofyngar, ac wrth ei gweled yn sefyll heb ddweyd gair, gofynnodd,—

“Wel, be sy isio?”

Syllodd Margiad bach i'w gwyneb. Yn sicr nid nain oedd hon, ond gofynnodd,—

“Hwn ’di ty nain, os gwelwch chi’n dda?”

Edrychai’r wraig yn synedig arni, a meddai, “John Williams a’i frawd sy’n byw yma, a fi sy’n cadw ty iddyn nhw. Dau hen lanc ydyn nhw,” ac ychwanegodd wrth weled y plentyn yn troi i ffwrdd yn siomedig yr olwg. “Wyrach