Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/127

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mai Brynteg Isa oedd arnoch chi isio. Mi ddangosai i’r ffordd i chi fynd at yno.” A daeth ar ei hol at y llidiart a cheisiodd egluro lle yr oedd Brynteg Isa. Yr oedd y cyfarwyddiadau yn ddyrus iawn i Margiad bach, ond cerddai ymlaen ar hyd y ffordd leidiog mor gyflym ag y gallai er gwaethaf ei lludded. Pan gyrhaeddodd y troad yr oedd y wraig wedi dweyd wrthi am gymeryd, daeth yn gawod drom o genllysg, a churai i’w gwyneb nes bron a’i dallu. Yr oedd y nos hefyd bron a’i dal, ac nid oedd Margiad bach yn hoff o’r tywyllwch.

Aeth heibio’r troad, ond ni welai dŷ yn y golwg yn unman, a gofynnodd i fachgen oedd yn dyfod i’w chyfarfod yn tywys ceffyl llwyd mawr, pa ffordd oedd myned i Frynteg Isa. Gyrrodd hwnnw hi heibio troad arall yn y ffordd a daeth o’r diwedd at amaethdy arall. Curai fel yn ei chalon yn gyflym. Tybed y caffai weled ei nain o’r diwedd! Byddai yn sicr o’i hadnabod. Dynes wridgoch a’i gwallt yn “ddu fel y frân,”—dyna fel byddai ei thad yn ei desgrifio i Fargiad bach, ac yr oedd hithau wedi ychwanegu at y darlun,—llygaid tyner fel rhai ei thad. Nid oedd y drws yn agored ym Mrynteg Isa ty arall, a phan gurodd daeth gwraig lled ieuanc ati a golwg helbulus ar ei gwyneb, a chlywai Margiad bach swn plentyn yn crio. Gwelodd y fechan unig ar unwaith mai nid ei nain oedd hon eto. Ni arhosodd y wraig i’r plentyn ddweyd gair, ond meddai,—“Toes ginon ni ddim byd i roi heiddyw,” a chaeodd y drws yn ei gwyneb. Nid oedd yn ddideimlad at gardotwyr fel rheol, ond yr oedd yn llawn trafferth y diwrnod hwnnw, y babi yn flin; y forwyn wedi ymadael heb rybudd. Yr