Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/128

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd hefyd yn ddiwrnod pobi a’r bara eisiau eu tynnu o’r pobty y funud honno.

Trôdd Margiad bach oddiwrth y drws a siomedigaeth yn llenwi ei chalon at yr ymyl. Ym mha le yr oedd y Brynteg oedd yn geisio? Tybed y deuai o hyd iddo byth?

Crwydrai i fyny ac i lawr y ffyrdd culion rhwng y gwrychoedd uchel. Mor unig, mor ddistaw oedd! Yr unig swn glywai oedd chwi. baniad prudd gwylan yn y pellder yn rhywle.

Daeth dyn drwy lidiart wrth ei hymyl i’r ffordd, a gofynnodd iddo yr hyn oedd wedi ofyn yn ofer ddwywaith o'r blaen y prydnawn hwnnw. ”Brynteg?” meddai, “dach chi’n dwad orwth yno ’rwan.”

“Nid Brynteg yna.”

“O, Brynteg John Williams a’i frawd ’dach chi’n feddwl, decyn i.”

Ond ysgydwai Margiad bach ei phen, oherwydd cofiai mai “John Williams a’i frawd” oedd yn byw yn y lle cyntaf yr aeth i holi.

“Wel, ’twn i ddim lle ’dach chi’n feddwl os nad ydach chi’n meddwl Brynteg y Llan. Dyma ffor ewch chi gynta i fano,” meddai gan agor y llidiart oedd newydd gau ar ei ol. “Cerwch ar hyd y llwybr ’na a dros y gamfa i’r ffordd gul, a wedyn mae giat Brynteg dipyn bach yn is i lawr na’r gamfa. Rhaid i chi frysio ne mi fydd yn nos arnoch chi yngeneth i. Cymwch ofol na newch chi ddim mynd yn rhy agos i’r afon.”

Llusgai Margiad bach ei thraed dolurus hyd y llwybr llaith. Yr oedd y cymylau wedi clirio erbyn hyn, ac ambell seren oleu brydferth yn disgleirio yma ac acw yn y wybren oer glir uwchben.